Mae Ford wedi cadarnhau y byddan nhw’n cau eu ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr y flwyddyn nesaf.
Bydd y ffatri 40 oed yn cau ym mis Medi 2020, ac mae disgwyl i 1,700 o weithwyr golli eu swyddi.
Mae undebau wedi beirniadu’r penderfyniad yn hallt, gydag Ysgrifennydd Cyffredinol Unite, Len McCluskey, yn galw’r cam yn “enghraifft hyll o frad economaidd”.
Datganiad Ford
“Rydym yn cynnig bod cynhyrchiant o genhedlaeth newydd injan 1.5 litr Ford yn dod i ben yn safle Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Chwefror 2020,” meddai’r datganiad.
“Bydd cynhyrchiant injans Jaguar Land Rover yn dod i ben ym mis Medi 2020 pan fydd disgwyl i safle Pen-y-bont ar Ogwr gau.
“Fel rhan o’i gynlluniau, mae Ford wedi darparu manylion cynllun cynhwysfawr sy’n cynnwys rhaglen ar gyfer gweithwyr Pen-y-bont ar Ogwr.
“Fel rhan o’r cynlluniau byddwn yn helpu gweithwyr sydd am weithio ar safleoedd eraill Ford … Byddwn hefyd yn eu helpu i ddod o hyd i gyflogwyr newydd, neu i’w helpu â chyfleoedd newydd …”