Mae Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, yn ystyried dathlu cyfraniad y gymuend BAME drwy roi eu hwynebau ar ddarnau arian am y tro cyntaf erioed.

Mae cynllun ar waith i gyhoeddi set newydd sbon o arian, yn ôl John Glen, gweinidog yn y Trysorlys.

Ymhlith y rhai allai ymddangos ar y darnau arian mae nyrsys Indiaidd a Gurkha oedd wedi derbyn Croes Fictoria, y nyrs Mary Seacole sydd o dras Affro-Caribïaidd yn Rhyfel y Crimea, a Noor Inayat Khan, asiant o’r Ail Ryfel Byd ac un o bedair merch i dderbyn Croes Siôr.

Mae’r cynlluniau wedi cael eu cyflwyno i’r Bathdy Brenhinol.

Ymgyrch

Dim ond pobol â chroen gwyn sydd wedi ymddangos ar ddarnau arian Prydain o’r blaen.

Zehra Zaidi, cyn ymgeisydd seneddol Ceidwadol, sydd wedi bod yn arwain yr ymgyrch i gydnabod cyfraniad pobol o liw at fywyd yng ngwledydd Prydain.

Mae Rishi Sunak eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i ymgyrchoedd gwrth-hiliaeth yn sgil protestiadau Black Lives Matter, gan alw am newid agweddau.