Mae rhieni Harry Dunn yn dweud eu bod nhw’n derbyn nad oedd Heddlu Swydd Northampton ar fai am y digwyddiadau’n dilyn marwolaeth eu mab.
Mae disgwyl i wrandawiad gael ei gynnal yn yr Uchel Lys ym mis Tachwedd, lle mae disgwyl iddyn nhw ddadlau bod yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab wedi ceisio atal cyfiawnder drwy roi’r hawl i Anne Sacoolas, gwraig diplomydd oedd wedi taro a lladd Harry Dunn ar y ffordd, adael gwledydd Prydain am yr Unol Daleithiau.
Fydd yr heddlu ddim yn cael eu henwi fel rhai a all fod ar fai, a fyddan nhw ddim chwaith yn hawlio costau gan y teulu am ddwyn achos ar ôl i ddogfennau ddangos iddyn nhw gael eu “cadw yn y tywyllwch” gan y Swyddfa Dramor.
Dywed y dogfennau nad oedd yr heddlu’n ymwybodol o’r bwriad i roi imiwnedd diplomyddol i Anne Sacoolas.
Mae’r heddlu hefyd yn dweud nad oedd y Swyddfa Dramor wedi rhoi gwybod iddyn nhw am y perygl y gallai hi adael gwledydd Prydain ac y gallai sefyllfa godi lle na fyddai modd cyfweld â’i gŵr Jonathan fel tyst.
Eglurhad
Yn ôl cyfreithwyr ar ran teulu Harry Dunn, fe wnaeth y Swyddfa Dramor “gadw’r heddlu yn y tywyllwch am 14 diwrnod” ynghylch statws imiwnedd Anne Sacoolas.
Fe wnaethon nhw hefyd fethu â rhoi gwybod i’r heddlu am ei bwriad i ddychwelyd i’r Unol Daleithiau na chwaith am ei hymadawiad tan y diwrnod canlynol.
Mae’n dweud mai cyfrifoldeb yr heddlu, nid y Swyddfa Dramor, yw penderfynu pwy sy’n cael imiwnedd diplomyddol.
Bydd yr heddlu’n parhau’n rhan o’r achos er mwyn cyflwyno tystiolaeth ond dydyn nhw ddim wedi gwneud sylw am y datblygiadau diweddaraf.
Dydy’r Swyddfa Dramor ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.