Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Peter Green, un o gyd-sylfaenwyr y band Fleetwood Mac, sydd wedi marw’n 73 oed.
Cafodd y band ei sefydlu ganddo fe a Mick Fleetwood yn Llundain yn 1967, ynghyd â John McVie a Jeremy Spencer.
Ond fe wnaeth e adael yn 1970 yn sgil ei iechyd meddwl.
Dywed Mick Fleetwood mai ei “ffrind anwylaf” oedd Peter Green a gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw “dorri yffach o gwys cerddorol i gynifer [o bobol] gael mwynhau”.
Mae’n disgrifio’i golled fel un “anferthol”.
“Does neb wedi camu i mewn i Fleetwood Mac heb barch mawr at Peter Green a’i ddoniau, a’r ffaith y dylai cerddoriaeth ddisgleirio a’i chyflwyno ag angerdd sy’n ddi-wyro,” meddai.
Steve Nicks yn ymuno
Un o aelodau’r band yn ddiweddarach oedd Stevie Nicks, ynghyd â’i chariad Lindsey Buckingham.
Erbyn hynny, roedd y band yn fyd-enwog ac mae’n dweud ei bod hi’n difaru na chafodd hi’r cyfle i rannu llwyfan â Peter Green.
“Ro’n i bob amser yn gobeithio yn fy nghalon y byddai hynny’n digwydd,” meddai.
“Pan wnes i wrando gyntaf ar holl recordiau Fleetwood Mac, ro’n i wedi fy swyno’n fawr iawn gan ei allu i chwarae’r gitâr.
“Roedd yn un o’r rhesymau pam ro’n i wedi cyffroi o gael ymuno â’r band,” meddai wedyn, gan ychwanegu bod y band “wedi newid ein bywydau”.
Bywyd a gyrfa
Cafodd Peter Green ei eni yn ardal Bethnal Green yn Llundain, yn aelod o deulu Iddewig.
Roedd yn aelod dros dro o’r band John Mayall’s Bluesbreakers yn absenoldeb Eric Clapton.
Roedd Peter Green a Mick Fleetwood yn awyddus i John McVie ymuno â nhw, gan enwi’r band yn Fleetwood Mac yn y gobaith o’i ddenu atyn nhw i chwarae’r bas.
Aeth y band yn ei flaen i greu tri albwm a chyfres o senglau gan gynnwys ‘Black Magic Woman’, ‘Man Of The World’ ac ‘Oh Well’.
Peter Green oedd wedi cyfansoddi ‘Albatross’, cân offerynnol a’r unig un o ganeuon y band i gyrraedd brig y siartiau Prydeinig, a hynny yn 1969.
Gadawodd Peter Green y band yn 1970 wrth iddo ddioddef o salwch meddwl ac effeithiau cyffuriau, ac fe fu’n cysgu ar y stryd am gyfnod.
Cafodd e ddiagnosis o sgitsoffrenia yn ddiweddarach, gan dreulio cyfnodau hir yn yr ysbyty yn cael triniaethau arloesol.
Wrth i’r band fynd o nerth i nerth, fe ddaeth Peter Green i amlygrwydd sawl gwaith gydag amryw o fandiau, gan gynnwys y Peter Green Splinter Group yn y 1990au a’r 2000au.
Cafodd Peter Green ei dderbyn i Oriel Enwogion Roc a Rôl yn 1998 ac yn gynharach eleni, daeth sêr y byd cerddoriaeth ynghyd yn y Palladium yn Llundain i ddathlu cerddoriaeth Fleetwood Mac.
Fe wnaeth Peter Green a Jane Samuels briodi yn 1978 ac ysgaru’r flwyddyn ganlynol, ac mae ganddyn nhw ferch.