Mae Angus Robertson, cyn-ddirprwy arweinydd yr SNP, am sefyll dros y blaid yn Holyrood.

Fe fydd yn brwydro am yr ymgeisyddiaeth ar gyfer sedd Canol Caeredin, sef sedd Ruth Davidson, cyn-arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, lle enillodd hi gyda mwyafrif o 610 yn yr etholiad diwethaf.

Fe fydd e’n brwydro yn erbyn Joanna Cherry am ymgeisyddiaeth yr SNP ar gyfer yr etholiad fis Mai y flwyddyn nesaf.

Deall anghenion yr ardal a’i phobol

Yn ôl Angus Robertson, mae e’n deall anghenion yr ardal a’i phobol fel un a gafodd ei fagu yng Nghaeredin.

“Dw i’n deall y materion amrywiol sydd o bwys i bobol a chymunedau ledled Canol Caeredin,” meddai.

“Os ydych chi am ethol Aelod Seneddol Albanaidd lleol sy’n gweithio’n galed, a chanddo brofiad cenedlaethol a phroffil uchel a fydd yn cefnogi’r prif weinidog Nicola Sturgeon a chyflwyno annibyniaeth, plis cefnogwch fy ymgyrch.”

Collodd ei sedd i Douglas Ross yn San Steffan yn 2017 ar ôl bod yn cynrychioli ardal Moray, ac fe aeth yn ei flaen i sefydlu’r felin drafod Progress Scotland.

Mae polau piniwn yn awgrymu bod 54% o drigolion yr Alban bellach o blaid annibyniaeth a bod disgwyl i’r SNP ennill mwyafrif yn Holyrood.