Mae bachgen 15 oed wedi pledio’n euog i gyhuddiad o gyflenwi cyffuriau yn dilyn marwolaeth Carson Price, 13, yng Nghaerffili.

Aeth y llanc, nad oes modd ei enwi yn sgil ei oedran, gerbon Llys Ieuenctid Cwmbrân, lle bydd e’n cael ei ddedfrydu ar Awst.

Cafwyd hyd i Carson Price yn anymwybodol mewn parc yn Ystrad Mynach ger Caerffili fis Ebrill y llynedd.

Roedd e wedi cymryd tabled ecstasi, ac fe fu farw yn yr ysbyty.