Mae cwmni Selfridges wedi rhoi gwybod i’w staff eu bod yn bwriadu cael gwared ar 450 o swyddi gan fod gwerthiant yn “sylweddol is” na’r llynedd oherwydd y pandemig coronafeirws.
Yn ôl Anne Pitcher, y Rheolwr Gyfarwyddwr, “2020 yw’r flwyddyn anoddaf yr ydym wedi’i phrofi yn ein hanes”.
“Fel y byddech yn ei ddisgwyl ar adeg mor dyngedfennol, rydym wedi bod yn edrych ar bob agwedd o’r busnes yn ofalus – ein strwythurau, ein costau ac ein ffyrdd o weithio,” meddai.
Yn sgil y coronafeirws, caeodd Selfridges eu drysau i gwsmeriaid fis Mawrth, cyn ailagor fis diwethaf.
‘Tasg sylweddol’
Ategodd y cwmni hefyd na fyddai staff sydd wedi eu rhoi ar gynllun cadw swyddi’r Llywodraeth dan anfantais wrth ddewis pa swyddi sydd yn y fantol.
“Mae’r dasg o’n blaenau yn un sylweddol,” meddai Anne Pitcher.
“Wrth i ni geisio ailddyfeisio adwerthu a pharatoi i adeiladu’n ôl, bydd angen i ni fynd ymhellach.
“Fel busnes teuluol, y penderfyniadau anoddaf yw’r rhai sy’n effeithio ar ein pobol, a dyna pam fod rhannu’r newyddion heddiw yn fy mrifo.
“Dyma’r penderfyniad anoddaf y bu’n rhaid i ni erioed ei gymryd gan dorri 14% o’n gweithlu.”
Ychwanegodd Selfridges y bydd cyfnod ymgynghori yn dechrau gyda chynrychiolwyr tîm ac undebau llafur yn fuan.