Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei gyhuddo o “lusgo’u traed” wrth fynd i’r afael â hiliaeth.

Dyna farn David Isaac, cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sy’n camu o’r neilltu.

“Mae yno nifer fawr o bobol, yn enwedig pobol o liw, sydd angen cefnogaeth, ac felly mae angen i strategaeth hil gydlynol fod yn flaenoriaeth ac rwy’n galw ar y Llywodraeth i weithredu ar frys,” meddai wrth y BBC.

‘Nid rhagor o adolygiadau yw’r ateb’

Dyw David Isaac ddim yn credu mai rhagor o adolygiadau yw’r ateb, gyda nifer o adolygiadau i hiliaeth, gan gynnwys Adolygiad Lammy, wedi cael eu cyhoeddi ynghyd â chyfres o argymhellion ers 2017.

“Mae’r amser am ragor o argymhellion drosodd yn fy marn i,” meddai.

“Rydym yn gwybod beth sydd angen ei wneud felly dylem fwrw ymlaen.”

Mynd i’r afael â hiliaeth yn ‘flaenoriaeth’

Mae’r Gweinidog Cydraddoldeb Kemi Badenoch wedi dweud wrth BBC Radio 4 nad yw David Isaac “erioed wedi lleisio” ei ofidion gyda hi, gan fynnu bod mynd i’r afael â hiliaeth yn “flaenoriaeth.”

“Dyw hi ddim yn wir fod y Llywodraeth wedi llusgo’u traed ar y mater hwn ac rwy’n gwrthod hynny,” meddai.

Aeth yn ei flaen i ddweud bod y Llywodraeth wedi gweithredu ar 16 o argymhellion Adolygiad Lammy.

“Ac eto, mae pobol yn ymddwyn fel petai dim o’r gwaith yma’n digwydd.”