Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi talu teyrnged i’r cyn-Aelod Cynulliad, Denis Idris Jones yn dilyn ei marwolaeth.

Roedd hi’n cynrychioli Llafur yn etholaeth Conwy rhwng 2003 a 2007.

Yn ieithydd, roedd hi’n aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, Iaith Gymraeg a Chwaraeon, y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes, y Pwyllgor Cyfrifon a Phwyllgor Rhanbarthol y Gogledd.

Roedd hi’n hanu o Rosllanerchrugog.

Mae nodyn ar wefan Wrexham Live yn dweud iddi farw’n dawel yn ei chartref yn Rhuthun.

Cafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Lerpwl, gan fynd yn ei blaen i ddysgu Ffrangeg yn Ysgol Grango.

Mae’n gadael gŵr, John Idris Jones, a dau o feibion, James a William a phedwar o wyrion.

‘Llais gwirioneddol dros y gogledd’

“Dw i’n drist o glywed am golli Denise,” meddai Mark Drakeford.

“Roedd Denise yn llais gwirioneddol dros y gogledd, dros addysg a’r iaith Gymraeg yn ystod ei chyfnod yn y Senedd.

“Daeth â’i phrofiad fel athrawes i’w gwaith yn aelod etholedig dros Gonwy.

“Mae fy meddyliau i a meddyliau mudiad Llafur Cymru gyda’i theulu ar yr adeg hon.”