Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi pecyn cymorth gwerth £40m i roi hwb i swyddi a sgiliau yn sgil y pandemig coronafeirws.
Mae disgwyl i £20m fynd ar annog cyflogwyr i recriwtio a hyfforddi 5,000 o brentisiaid a chefnogi graddedigion i drefnu lleoliadau profiad gwaith.
Bydd £9m yn mynd at ail-hyfforddi gweithwyr ac i ddod o hyd i waith newydd.
A bydd cronfa newydd yn sicrhau bod £2,000 ar gael i helpu pobol nad oedden nhw’n hunangyflogedig o’r blaen, gyda phwyslais arbennig ar gynorthwyo pobol o gefndiroedd BAME, menywod, pobol ifanc a phobol ag anableddau.
Amlinellu’r feirws
Daeth y cyhoeddiad yn ystod cynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru, dan ofal yr Ysgrifennydd Cyllid Rebecca Evans.
Wrth amlinellu sefyllfa’r feirws yng Nghymru, dywedodd fod nifer yr achosion newydd “yn isel er gwaetha’r cynnydd mewn profion”.
Cafodd mwy na 7,500 o brofion eu cynnal ddydd Sul (Gorffennaf 26), gyda 45 ohonyn nhw’n bositif – cyfradd o 0.6% o brofion positif.
Dywedodd fod nifer y bobol sy’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty’n “parhau i ostwng”, gydag 11 o bobol yn derbyn gofal dwys a 138 o bobol mewn ysbytai mewn cyflwr llai difrifol.
Y mis yma, doedd dim marwolaethau newydd wedi’u cyhoeddi ar 12 diwrnod.
Ond mae’r Swyddfa Ystadegau (ONS) yn dweud bod mwy na 2,500 o bobol wedi marw yn sgil y feirws ers mis Mawrth.
‘Mwy nag argyfwng iechyd’
“Gwyddom fod y coronafeirws yn fwy nag argyfwng iechyd yn unig,” meddai Rebecca Evans.
“Mae wedi effeithio pob agwedd ar ein bywydau a’n heconomi.
“Mae’r pandemig, yn anffodus, yn parhau i gael effaith sylweddol ar ein heconomi a swyddi yng Nghymru.
“Rydym wedi gweithredu’n gyflym ac yn benderfynol, ynghyd â Banc Datblygu Cymru, i helpu i warchod busnesau Cymru rhag rhai o effeithiau gwaetha’r coronafeirws.
“Mae’r pecyn cymorth busnes gwerth £1.7bn y gwnaethon ni ei roi ar gael ar ddechrau’r pandemig yn gyfystyr â 2.6% o Werth Ychwanegol Crynswth yng Nghymru.
“Mae’n ychwanegu at y gefnogaeth sydd ar gael trwy gynlluniau Llywodraeth Prydain ac mae’n golygu bod gan gwmnïau fynediad i’r cais mwyaf hael o gefnogaeth yn unman yn y Deyrnas Unedig.
“Mae’r gefnogaeth hon wedi bod yn hanfodol i warchod busnesau a bywoliaethau ledled Cymru.
“Mae’r ffigurau diweddara’n dangos bod ein Cronfa Gwydnwch Economaidd ar ei phen ei hun eisoes wedi helpu i warchod oddeutu 75,000 o swyddi yng Nghymru, a bydd nifer yn rhagor yn cael eu gwarchod wrth i’r gronfa barhau i gefnogi busnesau bach a mawr ledled Cymru.”
‘Tasg enfawr o’n blaenau’
Serch hynny, mae’n dweud bod yna “dasg enfawr o’n blaenau”.
“Mae busnesau’n wynebu rhai penderfyniadau anodd iawn yn y misoedd i ddod,” meddai.
“Ac rydym eisoes wedi cael nifer o ddiwrnodau anodd wrth i gwmnïau fel Airbus, GE a llawer mwy gyhoeddi colli swyddi.
“Mae angen cefnogaeth a chyfleodd newydd ar y rhai sydd wedi’u heffeithio i gael mynediad i ail-hyfforddi, cyngor gyrfaoedd i ddod o hyd i waith newydd neu i ddechrau eu busnes eu hunain.”
Pecyn £40m
Amlinellodd hi’r pecyn cymorth gwerth £40m wedyn:
- Daw ar ben y pecyn sgiliau a dysgu gwerth £50m gafodd ei gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf
- Bydd yn cefnogi prentisiaid newydd ac yn gwarchod prentisiaethau a allai fod wedi’u colli yn sgil effaith economaidd y feirws
- Bydd yn cynnig cymorth i’r rhai sy’n cael eu diswyddo – cyfleoedd hyfforddiant, rhaglenni ail-hyfforddi a chyngor gyrfaoedd ac i sefydlu busnesau newydd
- Rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol i sicrhau bod modd i 2,000 o weithwyr a gweithwyr ar gennad (furlough) gael mynediad i hyfforddiant, ennill dyrchafiad ac agor mwy o gyfleoedd o ran eu gyrfaoedd
“Bydd y pecyn hwn yn cefnogi’r rhai sydd angen y cymorth mwyaf – y rhai sy’n wynebu colli eu swyddi, pobol ifanc yn ymuno â’r farchnad waith am y tro cyntaf, y rhai sy’n ddiwaith yn y tymor hir, yn ogystal â’r rhai rydyn ni’n gwybod eisoes eu bod nhw o dan anfantais yn y farchnad waith, gan gynnwys pobol ag anableddau, menywod, pobol o gymunedau BAME a’r sawl sydd ar incwm isel,” meddai.
“Rydyn ni am i gyflogwyr gydweithio â ni wrth wneud y rhaglenni hyn yn llwyddiant.
“Mae yma gyfle iddyn nhw gryfhau eu busnesau tra’n darparu cyfleoedd swyddi a hyfforddiant o safon y mae angen ar bobol a’n heconomi.”
Dywedodd fod grwpiau rhanbarthol i ymateb i gyflogaeth wedi cael eu sefydlu “i ddod â phawb o amgylch y bwrdd i rannu gwybodaeth am ddiweithdra a cholli swyddi sydd wedi cyflymu neu wedi cael ei achosi gan y pandemig”.
Dywedodd wedyn fod Llywodraeth Cymru’n edrych ar brosiectau eraill i roi hwb i’r economi i helpu i dyfu’r economi, ac y bydd uwchgynhadledd gweithgynhyrchu’n cael ei chynnal fis nesaf i ystyried yr heriau i’r economi ac i gynllunio ar gyfer y ffordd allan o’r feirws yng Nghymru.