Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau bod sawl achos o’r coronafeirws wedi’u cofnodi ar safle teithwyr sydd dan eu rheolaeth ger y Trallwng.
Mae lle i gredu bod yr achosion yn gysylltiedig â rhai eraill mewn safle arall i deithwyr dros y ffin yn Craven Arms, Sir Amwythig.
Dydy hi ddim yn glir faint o achosion sydd ar y safle, ond mae Cyngor Sir Amwythig wedi cadarnhau bod dau achos arall wedi’u cofnodi heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 28) ar y safle teithwyr yn Craven Arms, gan ddod â chyfanswm yr achosion yno i 23.
Mae canolfan cynnal profion wedi cael ei sefydlu mewn parc busnes yn Craven Arms ac mae pawb sy’n byw ar y safle wedi cael cynnig prawf.
“Pan fo achosion lleol yn datblygu, rhaid i ni ddod o hyd iddyn nhw a gweithredu’n gyflym er mwyn atal lledaeniad pellach,” meddai Lee Chapman, cynghorydd lleol a Chadeirydd Bwrdd Iechyd a Lles Sir Amwythig.
“Rwy’n gwerthfawrogi y bydd hyn yn peri pryder, ac rwyf am sicrhau pobol ein bod ni wedi rhoi mesurau cadarn ar waith ers y dechrau i gadw pawb yn ddiogel.”
Safle Leighton Arches, y Trallwng
Mae’r Cynghorydd James Evans, Aelod y Cabinet ar faterion Gwasanaethau Datblygu Economaidd, Tai a Rheoleiddio Cyngor Sir Powys, wedi cadarnhau bod y Cyngor “yn darparu cefnogaeth ar gyfer nifer o breswylwyr ar ein safle Leighton Arches sydd wedi profi’n bositif am y coronafeirws”.
“Mae’n gyfnod pryderus ac rydym yn gofyn bod trigolion lleol yn parchu preifatrwydd ac urddas pawb sy’n gysylltiedig â hyn”, meddai.
“Rydym yn cymryd pob cam rhesymol i gyfyngu ar ledaeniad y clefyd ac i amddiffyn trigolion lleol.
Mae’r Cyngor yn cydweithio â Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i fynd i’r afael â lledaeniad y feirws.
“Pan fydd rhywun yn profi’n bositif am y coronafeirws, bydd y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu yn cysylltu â nhw fel y gallwn helpu i leihau lledaeniad y clefyd, achub bywydau a chadw Cymru’n ddiogel,” meddai James Evans wedyn.
“Bydd y gwasanaeth yn gofyn iddyn nhw lle maen nhw wedi bod yn ddiweddar, a chyda phwy y buon nhw mewn cysylltiad agos â nhw.
“Bydd hyn yn helpu gwasanaeth i gysylltu ag unrhyw un a allai fod wedi dal y feirws.
“Byddan nhw wedyn yn derbyn y cyngor priodol yn unol â chanllawiau iechyd cyhoeddus cenedlaethol.”
‘Chwarae ein rhan i leihau’r lledaeniad’
“Weithiau nid oes modd nodi a chanfod pawb y buoch chi mewn cysylltiad â nhw, er enghraifft efallai nad oes gennych fanylion cyswllt,” meddai Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
“Dyma le mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan i leihau’r lledaeniad.
“Os ydych yn gwybod y buoch chi mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif dylech hunanynysu am 14 diwrnod.
“Mae’n eithriadol o bwysig eich bod yn gwneud hyn hyd yn oed os nad oes gennych symptomau.
“Os ydych wedi cael eich heintio, gallech ddod yn heintus i eraill ar unrhyw adeg hyd at 14 diwrnod.
“Does dim rhaid i aelodau’ch teulu hunanynysu ond dylen nhw ddilyn y cyfarwyddyd cadw pellter cymdeithasol cyffredinol ac osgoi cysylltiad â chi wrth i chi hunanynysu gartref.”