Mae Alistair Darling, cyn-Ganghellor San Steffan, yn ymddeol o Dŷ’r Arglwyddi ar ôl pum mlynedd yn unig.

Cafodd ei benodi am oes bryd hynny, a dod yn Arglwydd Roulanish.

Mae’r Arglwydd Lexden, y Dirprwy Lefarydd, wedi diolch iddo am ei “wasanaeth hynod werthfawr i’r Tŷ”.

Roedd yn aelod seneddol Llafur rhwng 1987 a 2015, ac yn Ganghellor adeg y dirwasgiad economaidd yn 2008.

Daw ei ymddeoliad ar adeg pan fo cryn drafod ynghylch gostwng nifer yr Arglwyddi.

Mae bron i 800 o aelodau yn Nhŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd.