Fe wnaeth y Parchedig Beti Wyn James, gweinidog Caerfyrddin, gynnal oedfa “gyrru i mewn” dros y Sul, gyda phobol yn ymgynnull yn eu ceir ym maes parcio Clwb Rygbi Cwins Caerfyrddin.
Mae Beti Wyn James yn weinidog ar dri chapel yng Nghaerfyrddin, sef Capel y Priordy, Capel Cana a Chapel Banc-y-Felin.
Daeth 52 o geir i’r oedfa, gyda 110 o bobol ac mae’n debyg mai dyma’r oedfa “gyrru i mewn” gyntaf i gael ei chynnal yng Nghymru.
“Roeddem yn ymwybodol bod gwasanaeth drive in wedi digwydd Lloegr felly penderfynom fynd amdani heb wybod sut y byse hi’n mynd, ond mae’r gefnogaeth wedi bod tu hwnt i beth roeddem wedi ei ddisgwyl,” eglura Beti Wyn James wrth golwg360.
“Cefais i pick up i sefyll arno fel llwyfan, gyda system sain ac yna cawsom hanner awr o oedfa.
“Wrth gwrs, roedd gennym bobol yn stiwardio ac roedden ni’n cadw at fesurau diogelwch.”
“Braf iawn” cael gweld pobol eto
Roedd hi’n “braf iawn” cael gweld pobol eto yn yr oedfa, meddai Beti Wyn James, oedd yn “awyddus i weld pobol wyneb yn wyneb cyn yr haf”.
“Wnes i ddim sylweddoli gymaint roeddwn i’n gweld eisiau pobol, ac roedd yn braf iawn gweld rhai wedi mentro allan am y tro cyntaf er dechrau’r cyfnod clo,” meddai.
Buodd Beti Wyn James yn darlledu dros y we yn ystod y cyfnod clo ac roedd hynny wedi bod yn “llwyddiannus, ond roeddwn i’n awyddus i weld yr aelodau eto,” meddai.
Cyfleoedd newydd wedi dod o’r cyfnod clo
Dywed Beti Wyn James fod “cyfleoedd newydd” wedi dod o’r cyfnod clo a bod pobol wedi gorfod bod yn “ddyfeisgar” wrth ffeindio ffyrdd newydd o addoli.
“Mae’r cyfnod clo wedi bod yn brawf bod modd addoli yn unrhyw le, rydym wedi arbrofi a bod yn ddyfeisgar wrth droi maes parcio yn gapel neu addoli dros y we,” meddai.
“Rydym yn gobeithio y bydd capeli’n cael ailagor eto fis Medi, ond yn sicr byddwn yn ystyried gwneud hyn eto.”
Cyfnod “prysur iawn” yn ystod y pandemig
Mae’r cyfnod clo wedi bod yn gyfnod “prysur iawn” i Beti Wyn Jones wrth iddi fynd ati i ddanfon bwyd a moddion i rai o’u haelodau sy’n hunanynysu.
“Mae llawer o’n haelodau yn hunanynysu ac rwy’n credu bod gan yr Eglwys rôl bwysig i chwarae wrth gadw mewn cyswllt ac ymateb i’w anghenion nhw,” meddai.
“Diogelwch ein pobol ni yw’r peth pwysicaf.”