Mae’r rhai sy’n ymchwilio i achos Madeleine McCann yn yr Almaen yn chwilota am dystiolaeth mewn rhandir yn ninas Hanover.

Dechreuodd yr heddlu weithio ar y safle ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 27), ac mae disgwyl iddyn nhw aros yno drwy gydol y dydd heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 28) ac yfory (dydd Mercher, Gorffennaf 29).

Mae Julia Meyer, llefarydd ar ran swyddfa’r erlynwr yn Braunschweig, wedi cadarnhau bod y gwaith yn gysylltiedig â’r ymchwiliad, ond dywed na all hi wneud sylwadau pellach.

Roedd adroddiadau’r cyfryngau lleol yn cynnwys lluniau o gloddio gyda swyddogion yn defnyddio rhawiau.

Cefndir

Diflannodd Madeleine McCann tra’r oedd hi ar ei gwyliau gyda’i theulu yn Praia da Luz, Portiwgal ar Fai 3, 2007.

Mae ymchwilwyr yn yr Almaen yn credu bod Christian Brueckner, 43, wedi ei llofruddio yn fuan ar ôl ei chipio o’r fflat lle’r oedd y teulu yn aros.

Mae Christian Brueckner mewn carchar yn yr Almaen am werthu cyffuriau, ac yn apelio yn erbyn euogfarn am dreisio dynes 72 mlwydd oed yn Praia da Luz yn 2005.

Christian Brueckner o dan amheuaeth mewn cyfres o droseddau

Mae erlynwyr yn amau Christian Brueckner mewn cyfres o droseddau sydd heb eu datrys, gan gynnwys ymosodiad ar ferch  10 oed o wledydd Prydain yn 2005.

Cafodd sawl merch ifanc eu targedu mewn nifer o ymosodiadau tebyg.

Dywed yr erlynwr Hans Christian Wolters, sy’n arwain yr ymchwiliad, bod gan erlynwyr “dystiolaeth gadarn”, ond nid “tystiolaeth fforensig”, fod Christian Brueckner wedi llofruddio Madeleine McCann.

Mae’n bosib fod erlynwyr yn “gwybod mwy” na Scotland Yard, sydd yn dal i drin yr achos fel ymchwiliad i ddiflaniad person.

Chwilota ym Mhortiwgal

Mae ymchwilwyr ym Mhortiwgal hefyd wedi bod yn chwilota’n ddiweddar.

Yn ôl y papur The Mirror, bu’r heddlu yn Algrave yn archwilio tair ffynnon oddeutu deg milltir y tu allan i Praia da Luz.