Mae dau ddyn yn wynebu cyfnod o garchar yn dilyn ymosdiad angheuol ar bêl-droediwr amatur yn Swydd Nottingham fis Ionawr.
Cafodd Jordan Sinnott, oedd yn chwarae i dîm Matlock, ei daro i’r llawr yn nhref Retford ar Ionawr 25, gan niweidio’i benglog a’i ymennydd, ac fe fu farw yn yr ysbyty’n ddiweddarach.
Fe blediodd Cameron Matthews, 21, yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad mewn gwrandawiad blaenorol, gan ddweud mai fe oedd wedi taro’r ergyd farwol.
Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Nottingham, cafwyd Kai Denovan yn euog o ddynladdiad hefyd, a hynny ar ôl iddo gael ei sarhau gan Jordan Sinnott.
Dywedodd Kai Denovan amdano fe ei hun ei fod e’n “dew” a’i fod e’n “sinsir”, gan gyfeirio at liw ei wallt – ac fe gafodd Jordan Sinnott ei annog i gytuno â’r sylwadau.
Ond fe wylltiodd y diffynnydd ac ymosod arno.
Plediodd Sean Nicholson, 22, yn euog i gyhuddiad o ymwneud â ffrwgwd.
Clywodd y llys fod y ffrwgwd wedi dechrau y tu fewn i dafarn ac wedi parhau ar y stryd wedyn.
Er i Jordan Sinnott geisio ymddiheuro, fe wnaeth y tri ymosod arno gan achosi ei farwolaeth.
Bydd y tri dyn yn cael eu dedfrydu ddydd Gwener (Gorffennaf 31).