Mae Arlywydd Belarws wedi profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws – ar ôl ei wfftio.

Dywed Alexander Lukashenko iddo gael ei heintio heb symptomau.

Fe fu’n dweud bod yr adroddiadau am y feirws yn arwydd o “seicosis”, a wnaeth y wlad ddim cyflwyno unrhyw fesurau i warchod pobol rhag y feirws.

Fe fu oddeutu 67,000 o achosion yn y wlad, yn ogystal â 543 o farwolaethau.