Mae’r Orsedd wedi cyhoeddi enwau’r rhai a oedd am gael eu hurddo’n aelodau yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron eleni, er i’r Brifwyl gael ei gohirio.

Roedd disgwyl i’r ŵyl gael ei chynnal yn Nhregaron ym mis Awst, ond mae wedi’i gohirio tan 2021 yn sgil y coronafeirws.

Ymhlith yr enwau ar y rhestr mae’r ymgyrchydd gwleidyddol Emyr Llywelyn, y cyfansoddwr Delwyn Siôn, a chadeirydd Yes Cymru Siôn Jobbins.

Mae sawl un o’r bobol fydd yn cael eu hurddo wedi dysgu Cymraeg, a nifer wedi symud o wledydd eraill i Gymru.

Dysgodd Ronan Hirrien, sy’n wreiddiol o Lydaw, y Gymraeg tra yn y Brifysgol, ac mae’r arweinydd opera byd enwog Carlo Rizzi, sydd yn wreiddiol o Milan, yn magu’i blant drwy’r Gymraeg ym Mhenarth.

Mae Begotxu Olaizola o Zarautz hefyd yn cael ei hurddo am ei chyfraniad helaeth at feithrin a hyrwyddo’r berthynas rhwng Cymru a Gwlad y Basg.

Bydd yr arweinydd opera byd enwog Carlo Rizzi yn cael ei urddo i’r Wisg Werdd.

Pwy sy’n cael pa liw?

Mae’r anrhydeddau’n cael eu cyflwyno’n flynyddol, ac maen nhw’n gyfle i roi clod i unigolion am eu cyfraniad arbennig i Gymru a’r Gymraeg.

Mae’r rheiny sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro neu genedl yn derbyn y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau.

Enillwyr prif gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol yn unig sy’n derbyn y Wisg Wen bellach.

Yr ymgyrchydd gwleidyddol Emyr Llywelyn yn annerch protest yn erbyn yr Arwisgiad yn 1969, bydd yn cael ei urddo â’r Wisg Werdd.

Y Wisg Werdd

Deian Creunant, Aberystwyth

Anthony Evans, Caerdydd

Rhiannon Evans, Blaenpennal,

Angharad Fychan, Pen-bont Rhydybeddau

Robat Gruffudd, Tal-y-bont

Jeffrey Howard, Caerdydd

Elin Haf Gruffydd Jones, Aberystwyth

Wynne Melville Jones, Llanfihangel-Genau’r-Glyn

Helgard Krause, Aberaeron

Emyr Llywelyn, Ffostrasol

Huw Rhys-Evans, Harrow

Carlo Rizzi, Penarth

Geraint Roberts, Caerfyrddin

Eilir Rowlands, Sarnau a Chefnddwysarn

Delwyn Siôn, Caerdydd

Bydd cadeirydd Yes Cymru Siôn Jobbins yn cael ei urddo â’r Wisg Las.

Y Wisg Las

Cledwyn Ashford, Cefn-y-bedd, Wrecsam

Anwen Butten, Llanbedr Pont Steffan

Jeff Davies, Y Fenni

Mary Davies, Dre-fach, Llanybydder

Glan Davies, Rhydyfelin, Aberystwyth

Cyril Evans, Tregaron

Anne Gwynne, Tregaron

Ronan Hirrien, Brest, Llydaw

Arfon Hughes, Dinas Mawddwy

Dr Ruth Hussey, Lerpwl

Llŷr James, Caerfyrddin

John Milwyn Jarman, Penarth

Siôn Jobbins, Aberystwyth

Janet Mair Jones, Pencader

Dr Esyllt Llwyd, Llanrug, Caernarfon

Ann Bowen Morgan, Llanbedr Pont Steffan

Begotxu Olaizola, Zarautz, Gwlad y Basg

Glyn Powell, Pontsenni

Carys Stevens, Aberaeron

Yr Arglwydd John Thomas, Gwmgïedd, Cwm Tawe

Clive Wolfendale, Llandrillo yn Rhos

Y bwriad yw cynnal y seremonïau Urddo ar Faes yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.

Gan fod y broses wedi’i chwblhau cyn y cyfnod cloi, fydd yr Orsedd ddim yn ailagor enwebiadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, a bydd enwebiadau ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn agor ymhen y flwyddyn.