Mae’r cyflwynydd radio Andrew Thomas – neu ‘Tommo’ fel yr oedd e’n cael ei adnabod – wedi marw yn 53 oed.

Roedd yn gyflwynydd rhaglen brynhawn ar Radio Cymru rhwng 2014 a 2018, cyn gadael a dechrau cyflwyno rhaglen ddyddiol i orsafoedd masnachol Nation Broadcasting yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin, gan ennill gwobr Cyflwynydd Radio’r Flwyddyn yn 2011.

Y tu hwnt i’r byd darlledu, fe oedd llais stadiwm Parc y Scarlets, yn ogystal â bod yn gyflwynydd gweithgareddau diwrnod gemau pêl-droed Abertawe yn Stadiwm Liberty.

Mae’n gadael gwraig, Donna, a mab, Cian.

Teyrngedau

“Roedd Tommo yn gyfaill i @BBCRadioCymru ac yn lais pwysig yng nghymunedau’r Gorllewin. Rydym yn estyn cydymdeimlad i’w deulu, ei ffrindiau a’i gydweithwyr ar hyd y blynyddoedd,” meddai neges ar dudalen Twitter BBC Radio Cymru.

Mae pobol o bob agwedd ar fywyd yng Nghymru wedi talu teyrnged i’r cyflwynydd o Aberteifi, gydag Elin Jones, Llywydd y Cynulliad, yn dweud ei fod e’n “ddarlledwr gwbwl reddfol, yn fywiog a charedig” ac yn “Llais y Gorllewin”.

Mae rhanbarth rygbi’r Scarlets wedi cyhoeddi’r deyrnged ganlynol iddo:

Dyma ymateb y dyfarnwr o Fynyddcerrig, Nigel Owens:

Dyma sydd gan y cyflwynydd Ameer Davies-Rana i’w ddweud fel gwrandawr:

Roedd y newyddiadurwr Aled Scourfield yn ei adnabod yn dda ar ôl bod yn rhannu swyddfa’r BBC yng Nghaerfyrddin am rai blynyddoedd:

Mae David Huw Williams, cydweithiwr yn Radio Cymru, wedi rhannu’r atgofion hyn: