Mae ‘llythyr serch’ wedi cael ei ddanfon o Hwngari i Gymru fel rhan o ymgyrch cymdeithas Magyar Cymru i “adeiladu pontydd” rhwng y ddwy wlad.

Mae’r ymgyrch yn gwahodd pobol o Gymru i ddanfon neges yn ôl i Hwngari gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r fideo tairieithog yn gyfuniad o gyfraniadau gan drigolion ym “mhentref Cymreigiaf Hwngari’, cantorion opera a gwerin, addysgwyr a Hwngariaid sy’n byw yng Nghymru ac sy’n caru’r Gymraeg.

“Roedden ni eisiau dechrau’r ymgyrch gyda rhywbeth gwrioneddol arbennig,” meddai Balint Brunner, sylfaenydd a golygydd Magyar Cymru.

“Y nod oedd dod â lleisiau Hwngariaid ynghyd o bob cwr o Gymru, Hwngari a thu hwnt sy’n teimlo cysylltiad cryf â Chymru a’i phobol.

“O gerddoriaeth i bêl-droed a llenyddiaeth, mae llawer o bethau sy’n uno’n dwy genedl.

“Roedden ni eisiau gwahodd Cymru i helpu i ‘godi pontydd’ rhwng ein diwylliannau – drwy eiriau’r Hwngariaid sy’n byw yn eu plith a’r sawl sy’n dymuno’r gorau o bell.”

Manylion y fideo

Mae nifer o wynebau cyfarwydd yn Hwngari yn y fideo – o’r canwr gwerin Andrea Gerák i’r casglwr cerddoriaeth Gymraeg, László Záhonyi, sy’n cynnal digwyddiadau yn Budapest ar Ddydd Miwsig Cymru bob blwyddyn ers rhai blynyddoedd.

Mae neges arbennig wedi dod gan drigolion pentref Kunágota, pentref Cymreigiaf Hwngari sy’n cynnal cyngherddau yn y ddwy iaith ac sy’n dathlu’r ddau ddiwylliant.

Ymhlith y rhai eraill sy’n ymddangos mae’r caffi Három Holló yn Budapest, Balint Brunner, perchnogion bwyty Hwngaraidd Paprika yn Aberystwyth, y gantores glasurol Elizabeth Sillo, y pianydd Katalin Zsubrits a nifer o gerddorion eraill sy’n hoff o waith Karl Jenkins a chyfansoddwyr eraill o Gymru.

Mae’r fideo hefyd yn talu teyrnged i rai o lefydd hyfrytaf Cymru a Hwngari.

Gall pobol sy’n dymuno anfon neges ddefnyddio gwefan Magyar Cymru, neu ddefnyddio’r hashnodau #LetsBuildBridges, #AdeiladuPontydd ac #ÉpítsünkHidakat ar y cyfryngau cymdeithasol.