Mae dwy ganolfan brofi coronafeirws symudol yn agor yn Wrecsam.

Daw hyn ar ôl i rhwng 70 a 80 o achosion gael eu cadarnhau yn Ysbyty Maelor Wrecsam, gyda Wrecsam ymhlith y llefydd sydd wedi gweld y nifer fwyaf o achosion yng Nghymru.

“Mae gennym rhwng 70 a 80 o achosion Covid-19 yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar hyn o bryd,” meddai Gill Harris, Cyfarwyddwr Nyrsio a bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

“Bydd dwy ganolfan profi coronafeirws symudol yn agor yn Wrecsam i helpu wrth ddelio gydag achosion Covid-19 yn y gymuned.

“Parhewch i ddilyn canllawiau iechyd cyhoeddus ynghylch golchi dwylo a dilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol er mwy atal y feirws rhag lledaenu.

“Rydym yn parhau i ofyn i gleifion, y cyhoedd a staff sy’n ymweld ag Ysbyty Maelor i wisgo mygydau.”