Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, wedi amlinellu ei chynlluniau i roi codiad cyflog i athrawon.

Daw hyn wedi i adroddiad annibynnol gael ei gyhoeddi am yr ail flwyddyn yn olynol gan roi sylw i gyflogau athrawon.

Mae hi wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad, ac wedi cynnig ei hargymhellion ei hun er mwyn sicrhau bod codiadau cyflog yng Nghymru’n digwydd ar yr un raddfa â’r rheiny yn Lloegr.

Yn ôl ei hargymhellion, byddai:

  • cyflogau cychwynnol athrawon yn codi 8.48%
  • cynnydd o 3.1% yn y bil cyflogau i athrawon
  • codiad cyflog o 3.75% i athrawon ar y brif raddfa gyflogau
  • terfyn ar raddfa cyflogau ar sail perfformiad
  • graddfeydd cyflog cenedlaethol yn dychwelyd

Mae Kirsty Williams hefyd wedi cynnig bod prifathrawon, dirprwy brifathrawon a phenaethiaid cynorthwyol, ynghyd ag athrawon nad ydyn nhw wedi cymhwyso ac arferwyr blaenllaw yn cael codiad cyflog o 2.75% – a hynny ychydig yn uwch na’r 2.5% oedd yn cael ei argymell yn yr adroddiad.

Byddai cyflog cychwynnol athrawon newydd yn codi i fwy na £27,000 y flwyddyn, gydag athrawon ar y brif raddfa gyflogau’n derbyn codiad o o leiaf 3.75% ac athrawon ar y raddfa gyflogau uwch yn derbyn codiad o o leiaf 2.75%.

Byddai graddfa gyflogau pum pwynt hefyd yn cael ei chyflwyno fel y byddai athrawon newydd yn symud i ben ucha’r raddfa gyflogau o fewn pedair blynedd yn hytrach na phump.

Bydd cyfnod ymgynghori o wyth wythnos yn dilyn cyn i’r amodau terfynol gael eu cytuno.

‘Tecach ac yn fwy tryloyw’

“Bydd y newidiadau arfaethedig hyn yn helpu i alluogi datblygu system genedlaethol nodedig sy’n decach ac yn fwy tryloyw ar gyfer pob athro yng Nghymru,” meddai Kirsty Williams.

“Hon yw’r ail flwyddyn yn unig ers i’r pwerau hyn gael eu datganoli ac mae eisoes yn glir bod y dull o weithredu yma yng Nghymru’n datblygu’n wahanol iawn i’r un a fabwysiadwyd yn flaenorol.

“Hefyd mae nifer o faterion pwysig wedi cael sylw, gan gynnwys cyflwyno codiad cyflog yn seiliedig ar brofiad a graddfeydd cyflog statudol cenedlaethol; dau welliant y mae’r gweithlu wedi bod yn galw amdanynt.”