Mae pwysau ar Lywodraeth Prydain i ymyrryd er mwyn cefnogi cynlluniau Morlyn Llanw Bae Abertawe, ar ôl i oedi arwain at ganiatâd cynllunio’n dod i ben.

Roedd disgwyl i’r prosiect £1.3bn fynd yn ei flaen gyda chefnogaeth llywodraethau Cymru a Phrydain, yn ogystal â buddsoddwyr preifat.

Ond tynnodd Llywodraeth Prydain eu cefnogaeth yn ôl ar yr unfed awr ar ddeg, gan gwestiynu gwerth am arian y prosiect.

Ers hynny, fe fu sawl ymgais aflwyddiannus i gynnal y prosiect gyda chymorth buddsoddwyr preifat.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol am weld Llywodraeth Prydain yn cefnogi’r prosiect unwaith eto, a hynny fel rhan o’r cynlluniau adfer ôl-Covid.

‘Cyfle i sicrhau Cymru fwy gwyrdd’

Yn ôl Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, mae’r prosiect yn gyfle i sicrhau dyfodol mwy gwyrdd i Gymru.

“Ond yn drist iawn, o ganlyniad i’r Ceidwadwyr, rydyn ni’n ôl yn y man cychwyn,” meddai.

“Mae Boris Johnson yn siarad dipyn am ‘roi Cymru ar dir gwastad’ ond pan ddaw i roi arian yn lle siarad, dydyn ni ddim yn gweld dim ond diffyg gweithredu ac ystumio.

“Byddai’n well ganddo barablu am adeiladu ffordd fawr llawn llygredd yn hytrach na chyflwyo prosiectau ynni gwyrdd chwyldroadol fel Morlyn Abertawe.

“Rydyn ni yng nghanol argyfwng hinsawdd, mae angen i ni fod yn buddsoddi mewn technolegau cynaladwy ar gyfer y dyfodol.

“Mae Morlyn Llanw Abertawe yn rhan hanfodol o’n hadferiad ôl-Covid – trwy ei adeiladu, gallwn bweru adferiad gwyrdd a chreu nifer o swyddi sy’n talu’n dda ac sy’n gofyn am sgiliau uwch.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi cefnogi prosiect y Morlyn ers y dechrau a byddwn yn parhau i hybu prosiectau ynni gwyrdd ledled Cymru.

“Mae angen i’r Ceidwadwyr anrhydeddu eu hymrwymiad blaenorol i ariannu’r Morlyn fel y gallwn barhau â’r prosiect.”