Caerdydd yw’r lle rhataf i fyw er mwyn cymudo i’r gwaith, yn ôl rhestr sydd newydd gael ei chyhoeddi.

Fe ddaw fel rhan o astudiaeth gan Purely Diamonds i ddatgelu’r lle gorau yn y Deyrnas Unedig i bobol sydd newydd briodi fyw ynddo.

Un o’r elfennau sy’n cael eu hystyried yw cost cymudo i’r gwaith, gyda Chaerdydd ar frig y rhestr fel y rhataf.

Fe wnaeth Purely Diamonds restru cost tocynnau misol:

  1. Caerdydd – £52.90
  2. Glasgow – £54.00
  3. Caerefrog – £55.00
  4. Nottingham – £55.00
  5. Caeredin – £55.42
  6. Caerlŷr – £56.00
  7. Caergrawnt- £57.60
  8. Rhydychen – £58.50
  9. Newcastle-upon-Tyne – £60.00
  10. Leeds – £60.00