Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi rhestr o’r cyfyngiadau y bydden nhw’n hoffi eu llacio er mwyn “ail-agor Cymru” yn dilyn ymlediad y coronafeirws.
Dywed y blaid eu bod nhw eisiau helpu pobol i dreulio amser gyda’u hanwyliaid, cael mwy o hwyl, cadw’n heini a chael priodi.
Daw’r alwad gan Darren Millar, llefarydd iechyd y blaid, wrth i’r gyfradd heintio aros yn is nag 1.
O ddydd Gwener (Gorffennaf 31), mae’r blaid eisiau gweld y mesurau canlynol yn dod i rym:
- Llacio’r rheol cadw pellter a chyflwyno rhagofalon ychwanegol
- Gwneud gorchuddion wynebau’n orfodol mewn siopau
- Galluogi pobol i gyfarfod mewn grwpiau o hyd at bum aelwyd yn yr awyr agored
- Ymestyn y ‘swigen’ er mwyn galluogi pobol i gyfarfod â hyd at dair aelwyd ar yr un pryd dan do, a bod hynny’n cynnwys gallu aros dros nos
- Ail-agor theatrau a neuaddau bingo, campfeydd, canolfannau hamdden, pyllau nofio a chanolfannau marchogaeth
- Galluogi pobol i briodi dan do a chael brecwast priodas mewn mwy o lefydd
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r Cymry ymhlith y rhai sy’n dioddef fwyaf yng ngwledydd Prydain yn sgil y cyfyngiadau presennol.
“Mae’n hen bryd fod eu gwaith caled wrth atal lledaenu’r feirws yn cael ei wobrwyo,” meddai Darren Millar.
“Dw i’n annog Llywodraeth Lafur Cymru i ystyried yn ofalus yr holl eitemau ar ein rhestr er mwyn adfer mwy o ryddid i bobol yng Nghymru gyfarfod a threulio mwy o amser gyda’u hanwyliaid, cael mwy o hwyl, cadw’n heini a phriodi.
“Bydd ein cynlluniau hefyd yn helpu mwy o fusnesau a gweithgareddau i fod yn fwy dichonadwy.
“Mae’r rhyddid yma’n cael ei adfer yn ddiogel mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig a dylai pobol yng Nghymru fod yn gallu eu mwynhau nhw hefyd.
“Mae angen i ni barhau i ail-agor ein cymdeithas a’n heconomi tra’n gwarchod bywydau a bywoliaethau.”