Mae Gwesty Cymru, gwesty wyth ystafell a bwyty poblogaidd yn Aberystwyth, wedi mynd i’r wal yn sgil y coronafeirws.
Ers agor yn 2007 mae’r gwesty a’r bwyty wedi ennill amryw o wobrau, ond bu Gwesty Cymru ynghau ers i gyfyngiadau’r coronafeirws ddod i rym fis Mawrth.
“Mae Covid-19 wedi cael effaith andwyol ar ein busnes”, meddai Huw a Beth Roberts, perchnogion y gwesty.
“Er mawr ofid i ni – bu’n rhaid cau drysau Gwesty Cymru’n barhaol.
“O ganlyniad mae ymgynghorwyr proffesiynol wedi cychwyn y broses o ddod â’r Cwmni i ben.”
‘Arwain y ffordd ar dwrstiaeth yn y Gymraeg’
Disgrifiodd Elin Jones, yr Aelod o’r Senedd dros Geredigion, y newyddion fel digwyddiad “trist”.
“Roedd Gwesty Cymru yn werthfawr iawn i gymuned Aberystwyth ac yn westy oedd yn arwain y ffordd ar dwristiaeth yn y Gymraeg,” meddai.
“Penderfyniad anodd tu hwnt i’r perchnogion Huw a Beth, a cholled mawr i’r gweithwyr. Diolch iddynt oll.
“Covid yn greulon mewn sawl ffordd.”
‘Dyledion sylweddol’
Eglurodd Huw a Beth Roberts eu bod nhw’n ddibynnol “ar brysurdeb y gwanwyn a’r haf i gynnal y busnes drwy fisoedd y gaeaf”.
“Collwyd hanner ein trosiant blynyddol rhwng Ebrill a Gorffennaf yn unig.
“Mae’r cyfuniad o incwm a gollwyd, lleihad yn y trosiant a fyddai i ddod yn y dyfodol, dyledion sylweddol i’w talu ar ben y costau cyfredol, yn ei gwneud hi’n amhosibl i’r busnes redeg mewn ffordd broffidiol.
“Rydym wedi troi pob carreg mewn ymdrech i sicrhau bod y busnes yn goroesi ac yn masnachu’n broffidiol eto.
“Diolch o galon i’n cwsmeriaid a’n gwesteion ffyddlon am eu cefnogaeth ddi-syfl dros y blynyddoedd. Mae ein meddyliau a’n consỳrn nawr gyda’n staff a’u teuluoedd ar yr adeg hynod anodd hon.
“Yn fwy na dim mae ein cydymdeimlad gyda phawb sydd wedi colli anwyliaid dan amgylchiadau mor greulon o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig didostur hwn.”
Ychwanegodd y perchnogion y bydd y gwesty yn cysylltu â phawb sydd wedi bwcio ystafell neu le yn y bwyty yn fuan.