Mae cwmni Openreach wedi amlinellu cynlluniau i sicrhau bod cysylltiad band llydan ar gael mewn 45 o drefi a phentrefi yng Nghymru sydd fel arfer yn anodd eu cyrraedd.

Fe fydd yn golygu bod cannoedd o filoedd yn rhagor o gartrefi’n gallu cael cysylltiad cyflym i’r we.

Ymhlith y trefi fydd yn elwa mae Aberystwyth, Llanelli, Y Fenni a Bangor a’r gobaith yw y gall band llydan gyfrannu at adferiad yr economi ôl-Covid 19.

Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau o fewn 18 mis, ond gallai ymestyn i 2024 mewn rhai llefydd.

Mae’n rhan o gynllun i gyrraedd 3.2m yn rhagor o leoliadau trwy wledydd Prydain.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i Lywodraeth Cymru ddweud yn ddiweddar y byddan nhw’n ymestyn eu cytundeb ag Openreach i gyrraedd cymunedau lle mae gan lai na 90% o gartrefi gysylltiad band llydan.

Manteision

Yn ôl Openreach, mae manteision amlwg i’r cynllun ac mae’r rheiny wedi’u cynnwys mewn adroddiad gan y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes a gafodd ei gomisiynu gan Openreach y llynedd.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad y byddai sicrhau cyswllt band llydan i bawb yng Nghymru erbyn 2025 yn rhoi hwb o bron i £2bn i’r economi.

Ac mae’n darogan hefyd y gallai hyd at 25,000 ddychwelyd i’r farchnad waith yn sgil gwella cyswllt i fand llydan, gan helpu busnesau bach ac entrepreneuriaid, a galluogi miloedd yn rhagor i weithio gartref.

‘Mwy i’w wneud’

“Tra bod dros 95% o leoliadau yng Nghymru bellach yn gallu cael mynediad at fand llydan cyflym iawn, rydym yn gwybod fod mwy i’w wneud i gyrraedd y lleoliadau olaf,” meddai Lee Water, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

“Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi estyniad i’n cynllun arfaethedig gydag Outreach, gan ganolbwyntio ar ardaloedd awdurdodau lleol â llai na 90% o fynediad.

“Mae hyn ochr yn ochr â’n cynlluniau eraill i ariannu atebion cysylltedd i’r sawl nad ydyn nhw’n rhan o unrhyw gynlluniau arfaethedig.

“Dw i’n croesawu’r cyhoeddiad hwn gan Openreach a fydd yn cynyddu nifer y lleoliadau fydd yn gallu cael mynediad at ffeibr llawn, sydd â’r potensial i ddarparu rhai o’r cyflymderau mwyaf sydd ar gael.”