Mae 21 o achosion newydd o Covid-19 wedi cael eu cadarnhau mewn maes carafanau yn Swydd Amwythig.
Pryder y cyngor yw y bydd nifer yr achosion ar y safle, yn nhref Craven Arms, yn parhau i gynyddu cyn i fesurau i reoli’r haint ddechrau cael effaith.
Mae trigolion sydd wedi dod i gysylltiad gydag un o’r rhai sydd wedi cael prawf positif am Covid-19 wedi cael cais i hunan-ynysu yn eu cartrefi am 14 diwrnod.
Mae’r 21 person sydd wedi cael prawf positif am y coronafeirws eisoes wedi cael cais i hunan-ynysu am o leiaf saith diwrnod ers iddyn nhw ddechrau cael symptomau neu ers cael prawf positif.
Mae canolfan cynnal profion wedi cael ei sefydlu mewn parc busnes gerllaw ac mae pawb sy’n byw ar y safle wedi cael cynnig prawf.
Fe fydd y ganolfan ar agor am y pythefnos nesaf rhwng 10.30am a 3.30pm.
Mae maes chwarae ger y maes carafanau wedi ei gau er mwyn atal yr haint rhag lledaenu.
“Chwarae eu rhan”
Dywedodd y cynghorydd David Evans: “Ein blaenoriaeth yw diogelu iechyd a lles ein trigolion lleol.
“Dw i wedi bod yn siarad gyda thrigolion a busnesau yn Craven Arms er mwyn ateb unrhyw gwestiynau ac i’w sicrhau bod y risg i’r cyhoedd yn isel.
“Ry’n ni’n parhau i ddibynnu ar bawb ar y safle i chwarae eu rhan ac rydym eisiau annog y trigolion i barhau i hunan-ynysu a chymryd pob rhagofal posib.
“Dyma’r unig ffordd allwn ni atal yr haint rhag lledu.”
Dywedodd Cyngor Swydd Amwythig eu bod nhw wedi ymweld â’r safle er mwyn rhoi gwybodaeth i’r trigolion ynglŷn â sut i atal lledaeniad y firws, ei symptomau a beth i’w wneud os ydyn nhw’n teimlo’n sâl.