Mae chwech o bobl wedi cael eu cludo i’r ysbyty ar ôl mynd i drafferthion yn y môr yn Aberdyfi yng Ngwynedd, meddai gwylwyr y glannau.

Cafodd bad achub yr RNLI eu galw ar ôl i wyth person gael eu dal yn y cerynt yn y dwr ger Aberdyfi ddydd Sul (Gorffennaf 26).

Yn ôl Gwylwyr y Glannau cafodd chwech o bobl eu cludo i’r ysbyty tra bod dau berson arall wedi cael triniaeth ar y safle.

Does dim manylion pellach am eu cyflwr ar hyn o bryd.

Mae’n debyg bod nifer o alwadau 999 wedi cael eu gwneud tua 2.15 ddydd Sul yn adrodd bod nifer o bobl “mewn trafferthion” yn y dŵr yn Aberdyfi.

Yn ôl Gwylwyr y Glannau cafodd tri pherson eu cludo i’r ysbyty yn eu hofrennydd, un mewn ambiwlans awyr a dau berson arall mewn ambiwlans.

Cafodd y chwech eu cludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Roedd pob un o’r rhai oedd mewn trafferthion wedi cael eu tynnu o’r dŵr erbyn 4.40pm.