Mae’r cyflwynydd radio Chris Needs wedi marw yn 66 oed yn dilyn salwch byr.
Roedd e’n llais cyfarwydd a phoblogaidd i wrandawyr BBC Radio Wales, gan gyflwyno’i raglen The Friendly Garden Programme am 18 mlynedd.
Roedd y rhaglen, oedd yn cael ei darlledu am 10 o’r gloch bob nos, yn gyfres o sgyrsiau anffurfiol â’i wrandawyr, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n oedrannus.
Fe gyflwynodd ei raglen olaf nos Wener, a bu farw ddoe (dydd Sul, Gorffennaf 27).
Roedd yn hanu o Gwmafan.
Fel rhan o’r rhaglen, fe adeiladodd e gymuned o wrandawyr a dilynwyr, oedd yn dod yn aelodau o’r Chris Needs Friendly Garden Association.
Cyn hynny, fe ddechreuodd ei yrfa ddarlledu ar Touch AM, gan ymuno â’r BBC yn 2002.
Y tu hwnt i’r byd darlledu, roedd e hefyd yn actor ac yn bianydd clasurol, ac yn ieithydd o fri.
Fe fu’n byw â chlefyd y siwgr ers rhai blynyddoedd, ac fe fu’n siarad droeon am ei frwydr ag iselder.
Mae’n gadael gŵr, Gabe Cameron.
Teyrnged y BBC
“Gyda thristwch ac edifeirwch enfawr yr ydym yn cyhoeddi marwolaeth Chris Needs MBE, yn dilyn cyfnod byr o salwch,” meddai’r BBC wrth gyhoeddi’r newyddion.
“Trwy ei Friendly Garden, fe ddaeth Chris â phleser a chysur i filoedd o wrandawyr o bob cwr o’r byd, oedd yn ei drin e fel ffrind a chyfrinachwr go iawn.
“Roedd Chris hefyd yn weithiwr diflino dros elusennau.
“Mae’n gadael gŵr, Gabe a Buster-Llyr, ei golden retriever annwyl.
“Bydd ei deulu, ffrindiau a phawb yn BBC Radio Wales yn gweld ei eisiau’n fawr.
“Cwbl unigryw. Cwsg mewn hedd Chris.”