Mae ’na alw ar bobl sydd dros eu pwysau i golli pum pwys er mwyn arbed arian i’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) a helpu i leihau’r risg o farw o’r coronafeirws.

Mae’n rhan o strategaeth newydd y Llywodraeth i fynd i’r afael a gordewdra.

Wrth i Boris Johnson lansio ei strategaeth heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 27) fe fydd yn cyhoeddi gwaharddiad ar arddangos melysion wrth ymyl mannau talu mewn siopau ac yn gwahardd hysbysebion am fwyd sothach ar y teledu cyn 9pm.

Wrth ysgrifennu yn y Telegraph, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock ei fod yn gosod her i unrhyw un sy’n cael eu hystyried o fod dros eu pwysau.

“Petai bawb sydd dros eu pwysau yn colli pum pwys fe allai arbed mwy na £100 miliwn i’r GIG dros y pum mlynedd nesaf.

“Ac yn bwysicach na hynny, oherwydd y cysylltiad rhwng gordewdra a’r coronafeirws, fe allai golli pwysau achub bywydau.”

“Gwrthsefyll y coronafeirws”

Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi datgelu sut yr oedd ei brofiad ei hun o gael ei heintio a Covid-19 ym mis Ebrill wedi ei ddarbwyllo am yr angen i fynd i’r afael a gordewdra yng ngwledydd Prydain.

Dywedodd Boris Johnson ei fod wedi colli stôn ers ei salwch gan ddadlau y byddai bod yn fwy “iach a ffit” yn helpu pobl i “wrthsefyll y coronafeirws” a diogelu’r GIG.

Mae dwy ran o dair o oedolion yn y Deyrnas Unedig dros eu pwysau, yn ôl ffigurau’r Llywodraeth, ac mae un plentyn ym mhob tri rhwng 10 ac 11 oed yn ordew neu dros eu pwysau.

Daw’r cynllun diweddara i fynd a’r afael a gordewdra wrth i dystiolaeth gysylltu gordewdra neu fod dros bwysau gyda chynnydd yn y risg o ddioddef salwch difrifol yn sgil y coronafeirws.

Roedd astudiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi darganfod bod pobl sy’n cael eu hystyried yn ordew yn wynebu cynnydd o 40% o risg o farw o’r coronafeirws.

Calorïau

Ymhlith y newidiadau fydd yn cael eu cyhoeddi fel rhan o’r cynllun mae gwahardd cynigion “prynu un, cael un arall am ddim” ar fwydydd fel creision a siocled, a gwahardd archfarchnadoedd rhag temtio siopwyr gyda bwydydd sothach wrth ymyl mannau talu a mynedfeydd i’w siopau.

Fe fydd yn rhaid i fwytai mawr ddangos faint o galorïau sydd mewn eitemau ar eu bwydlenni ac fe fydd ymgynghoriad ynglŷn â gwneud yr un peth gydag alcohol.

Fel rhan o’r rhaglen fe fydd gwasanaethau colli pwysau’r GIG yn cael eu hymestyn, gydag ap colli pwysau dros 12 wythnos yn cael ei lansio.