Fe fydd nifer helaeth o amgueddfeydd Cymru yn aros ynghau er eu bod wedi cael caniatâd i ailagor heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 27).

Mae rhai o safleoedd diwylliannol Cymru yn cael yr hawl i ailagor heddiw ond bydd disgwyl i ymwelwyr sy’n mynychu amgueddfeydd ac orielau barchu mesurau ymbellhau cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Yn y cyfamser, mae salonau harddwch, parlyrau tatŵ ymysg y busnesau fydd yn cael agor heddiw (Gorffennaf 27).

Mae’r farchnad dai hefyd yn cael ailagor yn llawn, gan gynnwys cael mynd i weld tai sydd â phobol yn byw ynddyn nhw.

Sain Ffagan

Mae Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn dechrau ailagor yr amgueddfeydd cenedlaethol i’r cyhoedd, gan ddechrau gyda thiroedd awyr agored Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, o ddydd Mawrth, Awst 4. Ond bydd amgueddfeydd eraill ddim yn agor tan yn ddiweddarach ym mis Awst ac Amgueddfa Wlân Cymru, ddim yn ail-agor tan ddydd Iau, Medi 3.

Bydd yr adeiladau hanesyddol a’r orielau yn Sain Ffagan yn aros ar gau am y tro oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Bydd cyfleusterau fel y caffi, a rhai ardaloedd eraill o’r amgueddfa, hefyd ar gau am y tro.

Bydd yn rhaid i bob ymwelydd archebu eu hymweliad am ddim ymlaen llaw, ar-lein. Mae hyn er mwyn rheoli niferoedd a sicrhau diogelwch ymwelwyr, staff, gwirfoddolwyr a chymunedau lleol, meddai  Amgueddfa Cymru.

“Rydym yn gofyn hefyd i ymwelwyr wisgo gorchudd wyneb wrth ymweld er lles staff ac ymwelwyr,” meddai.

Sain Ffagan fydd y cyntaf o’r saith amgueddfa genedlaethol i ailagor a bydd ar agor bob dydd Mawrth, Iau, Sadwrn a Sul.

Ailagor yn “broses gostus”

Un lleoliad sydd wedi ailagor heddiw yw Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog, ac mae cyfarwyddwr y safle, Gwyn Jones, wedi dweud wrth golwg360 bod ailagor yn “broses gostus.”

“Mae hi wedi bod yn broses gostus wrth i ni orfod gwario £1,000 ar fannau cysgodi, arwyddion a’r math yna o beth,” meddai.

“Ar ben hynna, mae gennym staff yn dod yn ôl o ffyrlo ac mae’n debyg na fydd modd gwneud y math o elw rydym fel arfer yn ei wneud yn ystod tymor yr haf.

“Llynedd fe wnaethom £100,000 o elw dros yr haf, ond does dim gobaith o gyrraedd y ffigwr hwnnw eleni.

“Mae hi’n sefyllfa anodd i bawb, ond rwyf yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gymryd camau gofalus a rhoi blaenoriaeth i iechyd pobol yn hytrach nag elw.”

Dyddiadau ail-agor

Mae Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi y bydd eu hamgueddfeydd yn agor ar y dyddiadau isod:

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru – dydd Mawrth (Awst 4)

Amgueddfa Lechi Cymru – dydd Sul (Awst 23)

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – dydd Iau (Awst 27)

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – dydd Gwener (Awst 28)

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru – dydd Mawrth (Medi 1)

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru – dydd Mercher (Medi 2)

Amgueddfa Wlân Cymru – dydd Iau (Medi 3)