Mae dyn wedi marw ar ôl cwympo o glogwyn i mewn i’r môr ym Mhenrhyn Gŵyr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i draeth Rhosili am oddeutu 10 o’r gloch fore ddoe (dydd Sul, Gorffennaf 26).

Bu badau achub a hofrennydd yn rhan o’r ymdrechion i’w achub, ac fe gafodd ei dynnu o’r môr.

Ond bu farw’n ddiweddarach wrth i’r bad achub aros yn yr ardal i chwilio’r môr rhag ofn bod mwy nag un person mewn trafferthion.