Mae arolwg newydd yn awgrymu bod dynion o gefndir BAME (croenddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig) ddwywaith yn fwy tebygol o gael dirwy na dynion â chroen gwyn am dorri rheolau’r coronafeirws.

Mae adroddiad Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 27) yn dangos anghysondeb yng Nghymru a Lloegr.

Yn ôl yr arolwg, cafodd pobol o gefndir BAME ddirwyon 1.6 gwaith yn fwy na dirwyon pobol croenwyn rhwng Mawrth 27 a Mai 25.

Yn ystod yr un cyfnod, roedd pobol groenddu ac Asiaidd 1.8 gwaith yn fwy tebygol o gael dirwy na phobol â chroen gwyn.

‘Darlun cymhleth’… ond pryderus

Yn ôl Martin Hewitt, cadeirydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, mae’r darlun yn un “cymhleth” ond “pryderus” hefyd.

“Bydd pob llu yn edrych yn ofalus ar hyn i asesu a lleihau unrhyw risg o ragfarn – yn ymwybodol neu’n anymwybodol – ac i leihau’r effaith anghymesur lle bo’n bosib,” meddai.

“Mae sawl llu wedi denu cynrychiolwyr cymunedol atyn nhw i’w helpu i graffu ar amgylchiadau pob Hysbysiad Cosb Benodedig ac a gafodd ei chyflwyno’n deg.

“Rydym yn gweithio er mwyn datblygu cynllun gweithredu i fynd i’r afael â materion ynghylch cynhwysiad a chydraddoldeb hil sy’n dal yn bod yn yr heddlu – fel llai o ymddiriedaeth ynom o du cymunedau duon, eu pryderon am y defnydd o bwerau fel stopio a chwilio a phryderon pobol o liw yn yr heddlu am gynhwysiad a chydraddoldeb yn y gwaith.

“Bydd canlyniadau’r dadansoddiad hwn yn cael eu hystyried ymhellach fel rhan o’r gwaith hwnnw.”

Canlyniadau

Yn ôl ystadegau, mae tri o bob 10,000 o bobol wedi cael dirwy am dorri rheolau’r coronafeirws, ac roedd 70% ohonyn nhw’n ddynion dan 45 oed, categori sy’n 22% o’r boblogaeth.

Aeth 57% o ddirwyon i ddynion 18-34 oed, sy’n cyfateb i 14% o’r boblogaeth – cyfradd bedair gwaith yn uwch na phe bai dirwyon yn cael eu dosbarthu’n gymesur.

Mewn rhai heddluoedd, mae pobol o gefndir BAME 6.5 gwaith yn fwy tebygol o gael dirwy na phobol â chroen gwyn, ac mae mwy o ddirwyon yn cael eu rhoi mewn ardaloedd arfordirol a harddwch nag yn unman arall – ardaloedd, ar y cyfan, lle mae llai o bobol o gefndir BAME yn byw.