Mae aelod seneddol y DUP wedi cael ei feirniadu gan Sinn Fein am sarhau’r Wyddeleg ar y cyfryngau cymdeithasol.
Postiodd Gregory Campbell, sy’n cynrychioli etholaeth Dwyrain Derry, neges ddadleuol ar ei dudalen Facebook.
Nid dyma’r tro cyntaf iddo gael ei geryddu am sarhau’r iaith.
Yn 2014, cafodd ei wahardd rhag siarad yn senedd Gogledd Iwerddon ar ôl gwrthod ymddiheuro am barodi ar Facebook.
Wedi hynny, fe wnaeth e annerch y senedd gan ddechrau gyda’r geiriau “Curry my yoghurt” oedd yn dychanu’r frawddeg “go raibh maith agat, Ceann Comhairle”, sy’n golygu “Diolch, Lefarydd”.
Y sarhad diweddaraf
Y tro hwn, roedd e’n trafod rhaglen deledu BBC Gogledd Iwerddon am ysbïwr Almaenig oedd yn byw yn Donegal yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn siarad yr iaith Wyddeleg ag acen ei famwlad.
Wrth gyfeirio ato mewn neges ar Facebook, dywedodd Gregory Campbell, “I vill not be tempted to ask vot is dis curried yoghurt mein herr.”
Mae Sinn Fein yn dweud bod y neges yn “ffiaidd a sarhaus”.
Ffrae rhwng y DUP a Sinn Fein tros Ddeddf Iaith Wyddeleg newydd oedd wedi arwain at ohirio’r senedd am gyfnodau hir y llynedd.