Mae Oak Furnitureland wedi cyhoeddi ei fod yn cau 27 o’i siopau gan roi 163 o swyddi yn y fantol.

Roedd y cwmni dodrefn wedi cyhoeddi cynlluniau ail-strwythuro fis ar ôl cael ei achub rhag mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Dywedodd y cwmni ei fod bellach wedi clustnodi 27 o’i 105 o siopau a fydd yn cau wrth i’r amodau yn y farchnad “barhau’n heriol”.

Dywedodd prif weithredwr Oak Furnitureland, Alex Fisher, bod y penderfyniad i gau rhai o’i siopau yn rhan o adolygiad i ail-strwythuro’r busnes.

“Er bod hyn wedi bod yn benderfyniad anodd, dyma’r un cywir ar gyfer y busnes yn y cyfnod heriol unigryw yma,” meddai.