Mae Cymdeithas yr Iaith am i Lywodraeth nesaf Cymru osod targed i greu mil o ofodau cyfrwng Cymraeg newydd o fewn y pum mlynedd nesaf.

Byddai’n rhan o raglen ‘mwy na miliwn’, meddai’r mudiad iaith.

Mae dogfen etholiadol Cymdeithas yr Iaith yn argymell naw prif newid polisi wedi etholiadau’r Senedd.

Ymysg y polisïau, mae:

  • Creu 1,000 o ofodau uniaith Gymraeg newydd
  • Sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg
  • Buddsoddiad o 1% o wariant y Llywodraeth, neu £186 miliwn y flwyddyn, mewn
  • Prosiectau i hyrwyddo’r Gymraeg
  • Deddf Addysg Gymraeg i Bawb

“Taith treth newydd”

Dywed Cymdeithas yr Iaith y dylai’r Llywodraeth nesaf gyflwyno tair treth newydd er mwyn ariannu’r polisïau.

Byddai’r trethi hyn yn cynnwys treth ar AirBnB, uwch-dreth ar elw landlordiaid ac ail gartrefi, ac ardoll ar gwmnïau digidol a thelathrebu.

“Yn ogystal â mynd tu hwnt i’r targed o greu miliwn o siaradwyr, bwriad agenda ‘mwy na miliwn’ yw dyfnhau’r agenda drwy ganolbwyntio ar ddefnydd o ddydd i ddydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau, gweithleoedd a gwasanaethau cyhoeddus, ac estyn y Gymraeg i bawb, nid y rhai ffodus yn unig,” meddai Bethan Ruth Roberts, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Yn yr oes ôl-Covid, gyda methiant y gyfundrefn economaidd bresennol a thwf yr asgell-dde eithafol, mae nawr yn bwysicach nag erioed i gynnwys pobl o bob cefndir drwy gyfrwng y Gymraeg — y Gymraeg fel arf dros gynwysoldeb yn erbyn gwleidyddiaeth gynyddol adweithiol.

“Mae diffyg cynnal, cefnogi a chreu gofodau uniaith Gymraeg yn ochr arall y geiniog hon. Dywedir yn llawer rhy aml nad yw’r Gymraeg yn iaith gynhwysol ac felly mae Cymry Cymraeg a’r rhai nad sy’n siarad Cymraeg fel ei gilydd o dan yr argraff bod cynnal gofodau ‒ o gymunedau daearyddol, gweithleoedd neu ddigwyddiadau ‒ yn uniaith Gymraeg yn annerbyniol. Mae sicrhau gwir fynediad i bawb i’r Gymraeg yn hanfodol felly fel rhan o gynyddu’r nifer o ofodau lle mai’r Gymraeg yw’r cyfrwng iaith arferol.”