Mae ’na bryder y gallai rhagor o wyliau i Ewrop fod yn y fantol oherwydd “ansicrwydd” dros yr haf, ar ôl i deithwyr i Sbaen ddarganfod y bydd yn rhaid iddyn nhw fod mewn cwarantin pan fyddan nhw’n dychwelyd adref i’r Deyrnas Unedig.
Mae’r Llywodraeth wedi amddiffyn ei phenderfyniad i eithrio Sbaen o restr y Deyrnas Unedig o lefydd diogel ar ôl i’r wlad weld cynnydd yn nifer yr achosion o’r coronafeirws.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab na fyddai’r Llywodraeth yn ymddiheuro am gyhoeddi’r penderfyniad ddydd Sadwrn (Gorffennaf 25) – lai na phum awr cyn i’r rheol ddod i rym. Mae’n golygu y bydd yn rhaid i deithwyr o Sbaen a’i hynysoedd hunan-ynysu am 14 diwrnod.
Wrth siarad ar raglen Sky News, Sophy Ridge On Sunday, roedd wedi gwrthod disytyrru y gallai rhagor o wledydd gael eu cynnwys yn y rheol.
“Fel ry’n ni wedi darganfod gyda Sbaen allwn ni ddim rhoi unrhyw fath o sicrwydd,” cyn ychwanegu “mae ’na elfen o ansefydlogrwydd yr haf hwn os ydy pobl yn mynd dramor.”
“O dan reolaeth”
Mae gweinidogion yn Sbaen wedi datgelu eu bod mewn trafodaethau gyda’r Deyrnas Unedig i eithrio’r Ynysoedd Dedwydd a’r Ynysoedd Balearaidd sy’n cynnwys Ibiza a Majorca, o’r rheol gan fod llai o achosion o Covid-19 yn y rhanbarthau hynny.
Mae gweinidog tramor y wlad, Arancha Gonzalez Laya, wedi dadlau bod achosion o’r coronafeirws “o dan reolaeth” ar ôl i’r wlad gofnodi mwy na 900 o achosion newydd o Covid-19 am ddau ddiwrnod yn olynol cyn i’r rheol cwarantin ddod i rym.
Ffrainc a’r Almaen
Yn ôl papur newydd The Telegraph mae swyddogion yn Ffrainc a’r Almaen wedi rhybuddio am gyfyngiadau newydd posib wrth i rannau o Ewrop baratoi ar gyfer ail don o Covid-19. Mae’r awdurdodau yn Ffrainc wedi dweud bod nifer yr achosion yn y wlad wedi cynyddu unwaith eto.
Mae’r penderfyniad i gyflwyno’r rheol cwarantin ar gyfer teithwyr yn Sbaen wedi cythruddo nifer o ymwelwyr sy’n dweud na fydden nhw wedi teithio yno petai nhw’n gwybod bod yn rhaid treulio pythefnos yn hunan-ynysu ar ôl hynny.
Yn ôl cwmni teithio The PC Agency mae’n debyg bod 1.8 miliwn o wyliau wedi cael eu heffeithio gan y penderfyniad, ar ol iddyn nhw ymchwilio i nifer y seddi sydd wedi cael eu bwcio o’r Deyrnas Unedig i Sbaen rhwng Gorffennaf 26 ac Awst 31.
Ac ym mhapur The Times, mae “nifer fawr” o deithiau i Ffrainc, yr Eidal a Gwlad Groeg yn cael eu canslo yn dilyn y penderfyniad ddydd Sadwrn, gan roi straen ychwanegol ar y sector deithio.
Yn dilyn cyngor y Llywodraeth dywedodd cwmni Tui y bydd yn canslo’r holl wyliau i Sbaen hyd at Awst 9.
“Llanast llwyr”
Mae llefarydd iechyd y Blaid Lafur Jonathan Ashworth wedi beirniadu’r ffordd mae’r Llywodraeth wedi delio gyda’r mater gan ei alw’n “llanast llwyr” ac mae wedi galw am gefnogaeth ariannol i’r rhai sydd bellach yn gorfod hunanynysu ar ôl dychwelyd adref.
Ond mae Downing Street wedi mynnu “nad yw unrhyw deithio yn ddi-risg”.
Dywedodd llefarydd swyddogol Prif Weinidog y Deyrnas Unedig y gall penderfyniadau ar fesurau ffiniau a chyngor teithio “gael eu newid yn gyflym, os oes angen, i helpu i atal lledaeniad y clefyd”.
Aeth yn ei flaen: “Yn anffodus nid oes unrhyw deithio yn rhydd o risg yn ystod y pandemig hwn ac mae tarfu’n bosibl ac felly dylai unrhyw un sy’n teithio dramor fod yn ymwybodol bod ein rhestr cyngor ar deithio ac eithriadau yn cael ei hadolygu’n gyson wrth i ni fonitro’r sefyllfa ryngwladol.”