Mae mygydau’n orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys tacsis, yng Nghymru o heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 27).
Cafodd y mesur newydd ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford wrth iddo lacio rhagor o gyfyngiadau’r coronafeirws ar Orffennaf 13.
Mae’r drefn newydd yn berthnasol i bobol dros 11 oed yn unig, a bydd pobol â rhai cyflyrau iechyd, gan gynnwys trafferthion anadlu, yn cael eu heithrio.
Mae pobol yn cael eu cynghori i wisgo mygydau â thair haen o’r un brethyn.
Gall gyrwyr wrthod mynediad i deithwyr sy’n gwrthod cydymffurfio, a gall yr heddlu roi dirwy o £60 a dyblu’r swm am ail drosedd.
Yn sgil y mesur newydd, fe fydd modd i fwy o bobol deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, wrth i’r galw gynyddu gyda mwy o bobol yn dychwelyd i’r gwaith ac yn mynd allan.
Mae Llywodraeth Cymru’n annog pobol i ystyried a oes angen iddyn nhw deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus os oes modd iddyn nhw deithio mewn ffordd wahanol.
Lleihau’r perygl
“O heddiw ymlaen, bydd yn ofynnol i fwyafrif llethol defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru wisgo gorchuddion wyneb tra’n teithio ar ein bysiau, ein trenau ac mewn tacsis,” meddai Ken Skates, Gweinidog Trafnidiaeth Cymru.
“Cafodd y gyfraith ei chyflwyno i helpu i leihau y perygl o drosglwyddo’r coronafeirws yn gyhoeddus ac i ddiogelu iechyd defnyddwyr ein trafnidiaeth gyhoeddus.
“Rydyn ni’n gwybod nad yw’n bosibl bob amser i gynnal pellter corfforol o ddau fetr ar drafnidiaeth gyhoeddus a’r angen i wisgo gorchudd wyneb yn ogystal â chanllawiau eraill yr ydym wedi’u cyhoeddi i’n darparwyr trafnidiaeth er mwyn annog teithio diogel.”