Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu adeiladu 600 o dai newydd ger Ffordd Cefn, Wrecsam.
Bydd Pwyllgor Adeiladu Wrecsam yn penderfynu ar y cynlluniau y prynhawn ’ma (dydd Llun, Gorffennaf 27).
Mae’n rhan o ddatblygiad yn yr ardal a allai gyrraedd cyfanswm o 1,600 o dai.
Ond mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro na ddylai’r datblygiad fynd yn ei flaen.
“Pam adeiladu?” – Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru’n dadlau nad yw hi’n gwneud synnwyr adeiladu’r tai, gan fod poblogaeth Wrecsam ddim ond wedi tyfu 156 yn y saith blynedd diwethaf.
Maent hefyd yn dadlau bod cynnig Cyngor Wrecsam wedi ei seilio ar amcanestyniadau Llywodraeth Cymru, sy’n honni y bydd poblogaeth yr ardal yn codi 20% erbyn 2036.
Yn ôl y Blaid, byddai hynna’n golygu twf o 1,193 o bobol pob blwyddyn rhwng 2013 a 2028, sy’n annhebygol.
Mae Plaid Cymru hefyd yn dadlau bod yno gannoedd o adeiladau gwag yn Wrecsam, allai gael eu hadfer i greu tai, tra bod swyddfeydd yng nghanol y dref hefyd yn cael eu troi mewn i fflatiau.
System sy’n cael ei arwain gan “ddatblygwyr barus”
Mae Plaid Cymru’n credu bod datblygiadau o’r math yma’n digwydd oherwydd system sy’n cael ei harwain gan “ddatblygwyr barus” yn hytrach nag anghenion y gymuned.
“Dyw’r datblygwr ddim ond eisiau gwneud y mwyaf o elw, sy’n golygu darparu tai,” meddai datganiad gan y Blaid.
“Dyna pam rydym yn gweld, dro ar ôl tro, ddatblygwyr yn cael caniatâd cynllunio gyda’r addewid o gyfrannu i’r gymuned a chreu tai fforddiadwy, ddim ond i ddychwelyd at yr awdurdod cynllunio a dweud nad yw [hynny] yn bosib.”
Llyr Gruffydd yn lambastio’r cynlluniau
Mae Gweinidog Cynllunio Cysgodol Plaid Cymru, Llyr Gruffydd wedi lambastio’r cynlluniau, gan ddweud bod cyfanswm dyraniad tai ar draws chwe Sir Gogledd Cymru yn 400 y flwyddyn, tra bod Cyngor Wrecsam yn bwriadu adeiladu 517 o dai mewn un Sir.
“Dros y degawd diwethaf, mae cynghorau ar draws Gogledd Cymru wedi cael eu perswadio i fabwysiadu Cynlluniau Datblygu Lleol ar sail lefelau uchel o dwf a’r angen i ddyrannu tir er mwyn adeiladu miloedd o dai newydd,” meddai Llyr Gruffydd.
“Rydym wastad wedi dadlau bod amcanestyniadau hyn wedi eu seilio ar dadansoddiadau diffygiol sy’n dibynnu ar dwf yn y gorffennol yn hytrach na darogan twf yn y dyfodol ac amgylchiadau lleol penodol.
“Mae’n rhaid i ni sortio’r balans fel bod cymunedau’n datblygu’n organig ac yn darparu gwasanaethau, isadeiledd a thai ar gyfer y dyfodol.”