Mae pryder am ddyfodol cartref henoed ar safle ger Pwllheli sydd wedi bod yn gartref i Bwyliaid ers bron i dri chwarter canrif.

Daw hyn yn sgil adroddiadau bod y safle wedi cael ei brynu am £1 am gwmni o ddatblygwyr o Wrecsam – ac yn ôl merch un o’r trigolion, ni fu unrhyw ymgynghori gyda’r trigolion.

Cafodd safle Penyberth ym Mhenrhos ei ddefnyddio i gartrefu Pwyliaid a oedd yn gwasanaethu yn y maes awyr yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac mae ambell un o’r cyn-filwyr hyn yn dal yn y cartref henoed a godwyd yn ddiweddarach ar y safle.

Dywed Tina Blay, sydd â’i rhieni yn y cartref ers mis Mawrth, fod y trigolion yn hynod bryderus ynglŷn â’r sefyllfa.

Yn wyneb ei hofnau bod y cwmni sydd wedi prynu’r safle yn bwriadu cau’r cartref gofal, mae hi wedi lansio apêl ar Facebook i geisio “rhwystro’r gwallgofrwydd yma rhag digwydd”.

Dywed fod cyfarfod wedi ei drefnu rhwng y staff, undebau a’r datblygwyr ddydd Llun:

“Mae’r staff dw i wedi siarad â nhw yn teimlo’n bryderus iawn,” meddai. “Rydym wedi clywed nad oes gan y cwmni ddim diddordeb mewn cartrefi gofal, a’r ofnau yma yw y byddan nhw’n chwalu’r safle ac yn codi stad o fflatiau.”

Ymateb

“Yn dilyn cyfnod hir o ansicrwydd ariannol, rydym yn difaru ein bod wedi gorfod gwneud y penderfyniad i symud tuag at gyfnod o gau cartref nyrsio Penrhos yn raddol ar ôl archwilio’r holl opsiynau eraill,” meddai Kasia Rafalat, aelod o fwrdd y Gymdeithas Dai Pwylaidd.

“Fydd y penderfyniad hwn ddim yn effeithio ar y trigolion yn llety lloches.

“Ein nod erioed oedd canolbwyntio ar warchod lles ein trigolion a’n staff a sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu ar gyfer y dyfodol.

“Mae cymorth ariannol gan Gyngor Gwynedd yn golygu na fydd angen i’r cartref nyrsio gau ar unwaith ac y gallai aros ar agor hyd at Fawrth 2021 ac yn y cyfamser, bydd staff yn cydweithio’n agos efo’r trigolion a’u teuluoedd i gytuno ar yr opsiynau mwyaf addas ar gyfer eu dyfodol.

“Mae PHS yn parhau i gydweithio â Chyngor Gwynedd, y Bwrdd Iechyd a ClwydAlyn i ddatblygu cynllun llawn ar gyfer cau’r cartref nyrsio, gyda’r holl bartneriaid wedi ymrwymo i ddatblygiad tymor hir y safle.”