Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n apelio ar ymwelwyr i osgoi lleoedd rhy brysur pan fydd y cyfyngiadau teithio’n cael eu codi ddydd Llun.

Maen nhw’n annog ymwelwyr i “droedio’n ysgafn” – sef bod yn hyblyg yn eu trefniadau a bod yn barod i symud i rywle arall os ydyn nhw’n digwydd cyrraedd ardal sy’n prysuro.

Mae’r canllawiau eraill sydd wedi cael eu cyhoeddi gan y Parc yn cynnwys cadw pellter cymdeithasol ymhobman gan gofio am fannau cyfyng, a pharcio yn y mannau priodol yn unig.

Caiff yr apêl daer ar i ymwelwyr ymddwyn yn gyfrifol ei thanlinellu mewn neges fideo ar wefan y Parc, lle mae naturiaethwyr lleol yn dangos cymaint mae byd natur wedi elwa o gael llai o bobl, a meddyg yn trafod pryder cymunedau lleol am beryglon ail don o’r feirws.