Mae deifiwr scwba 20 oed wedi marw ar ôl dioddef ymosodiad gan siarc oddi ar arfordir Queensland yn Awstralia.

Er iddo gael triniaeth feddygol frys, bu farw yn y fan a’r lle o’i anafiadau. Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar ochr ddwyreiniol Fraser Island heb fod ymhell o’r lle cafodd dyn arall, 23 oed, ei ladd gan siarc mawr gwyn ym mis Ebrill.

Mae o leiaf bedwar o bobl wedi cael eu lladd gan siarcod yn Awstralia eleni.