Wrth i dafarnau ailagor yn Lloegr heddiw, dim ond pobl sy’n byw o fewn pum milltir i’r ffin all deithio iddyn nhw o Gymru ar hyn o bryd.

Dyna yw neges y Prif Weinidog Mark Drakeford, sy’n atgoffa pobl Cymru fod y cyfyngiadau ar deithio mwy na phum milltir yn dal mewn grym y penwythnos yma.

Fydd tafarndai yng Nghymru ddim yn cael agor tan wythnos i ddydd Llun, 13 Gorffennaf, a hynny dim ond ar gyfer yfed y tu allan.

“Er y gall pobl sy’n byw yn agos iawn i’r ffin ddewis teithio [i dafarn yn Lloegr], fydd hynny ddim yn bosib i’r mwyafrif ohonon ni,” meddai Mark Drakeford.

“Lle bynnag ydych chi yng Nghymru, dyw’r penwythnos yma ddim yn rheswm nac yn esgus rhoi’r gorau i bopeth rydych chi wedi gweithio mor galed i’w cyflawni.

“Daliwch ati i wneud y pethau hyn a helpu cadw Cymru’n ddiogel.”

Mae Heddlu’r Gogledd hefyd yn pwyso ar bobl i aros yn lleol y penwythnos yma, ac mae Heddlu Gwent yn dweud y bydd y patrolau rheolaidd yn parhau tra bydd y cyfyngiadau mewn grym.

Cadarnhaodd y Prif Weinidog ddoe y bydd y cyfyngiadau pum milltir yn dod i ben ddydd Llun, ac y bydd aelodau dwy aelwyd yn gallu dod at ei gilydd i ffurfio un aelwyd estynedig, gan alluogi teuluoedd i ddod at ei gilydd unwaith eto.