Mae o leiaf 12 o bobl wedi cael eu lladd a mwy na 10 arall ar goll ar ôl i law trwm yn ne Japan achosi llifogydd a thirlithriadau.

Cafodd dros 75,000 o drigolion yn rhanbarthau Kumamoto a Kagoshima eu cynghori i adael eu cartrefi wedi glaw trwm dros nos. Mewn un dref, mae llithriadau mwd wedi rhwygo i mewn i dai, ac mae teledu’r wlad yn dangos lluniau o bobl ar ben to adeiladau yn disgwyl am achubwyr.

Dywed prif weinidog Japan, Shinzo Abe, fod 10,000 o filwyr wedi cael eu hanfon i helpu gyda’r gwaith o achub.