Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i guro dwylo i ddangos eu gwerthfawrogiad o weithwyr y Gwasanaeth Iechyd bnawn yfory am 5 o’r gloch.

Mae’n rhan o gyfres o ddigwyddiadau i nodi penblwydd y Gwasanaeth Iechyd yn 72 oed.

Fe fydd munud o dawelwch hefyd yn cael ei gynnal heno am 9, a chanhwyllau’n cael eu goleuo i gofion am y bobl a fu farw o ganlyniad i’r coronafeirws.

Law yn llaw â hyn, fe fydd adeiladau adnabyddus gan gynnwys 10 Downing Street, y Royal Albert Hall a Thŵr Blackpool yn cael eu goleuo’n las.

Mae’r digwyddiad yfory yn dilyn poblogrwydd y curo dwylo wythnosol i ofalwyr, ac mae symudiadau ar droed i gael diwrnod blynyddol o dathlu’r Gwasanaeth Iechyd ar Orffennaf 5.

“Mae’r Curo Dwylo i Ofalwyr wedi bod yn boblogaidd iawn yng Nghymru a dw i wrth fy modd o gefnogi’r digwyddiad yfory,” meddai Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr NHS Cymru.

Codiad cyflog

Yn y cyfamser, mae arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, wedi galw am godiad cyflog i staff y Gwasanaeth Iechyd.

Wrth annerch rali rithiol i nodi 72 mlynedd y Gwasanaeth Iechyd, meddai:

“Mae’n balchder a’n gwerthfawrogiad o’r Gwasanaeth Iechyd wedi cael ei atgyfnerthu gan bopeth mae ei staff wedi ei wneud yn yr argyfwng Covid.

“Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod, yn ogystal â dweud diolch, yn cydnabod mewn ffordd ystyrlon yr hyn mae’r Gwasanaeth Iechyd wedi’i wneud.

“A dyna pam mae Llafur yn cefnogi’r rheini sy’n galw ar y Llywodraeth heddiw i wneud ymrwymiad ar unwaith i drafod codiad cyflog i weithwyr yr NHS.”

Mae ei sylwadau’n dilyn galwadau gan undebau sy’n cynrychioli mwy na 1.3 miliwn o weithwyr iechyd am drafodaethau buan ar gyflogau.