Mae Donald Trump wedi cael ei gyhuddo o beryglu bywydau Americanwyr brodorol wrth gynnal rali i ddathlu diwrnod annibyniaeth America yng nghysgod Mount Rushmore yn nhalaith De Dakota.
Er bod y safle’n fwyaf adnabyddus am y cerfluniau anferthol o bedwar o arlywyddion America yn y graig, mae hefyd yn un o safleoedd sanctaidd y llwyth Sioux.
Pryder y trigolion cynhenid yw y gallai’r digwyddiad ledaenu’r coronfeirws yn eu plith, gan fod llawer ohonyn nhw’n arbennig o fregus iddo yn sgil afiechydon cronig a system iechyd ddiffygiol.
“Mae’r arlywydd yn peryglu aelodau ein llwyth er mwyn cynnal photo op yn un o’n safleoedd mwyaf sanctaidd,” meddai Harold Frazier, cadeirydd llwyth Sioux afon Cheyenne.
Yn y rali, fe wnaeth yr arlywydd araith ymfflamychol arall yn ymosod ar ymgyrchwyr dros gyfiawnder i bobl ddu, gan eu cyhuddo o “ymgyrch ddidostur i ddileu ein hanes”.
“Maen nhw’n meddwl bod pobl America yn wan a meddal a pharod i ildio,” meddai wrth y dorf , y mwyafrif ohonyn nhw heb fasgiau, a neb yn cadw pellter cymdeithasol.
“Ond na, mae pobl America yn gryf a balch, a fyddan nhw ddim yn caniatáu i’n gwlad, a’i holl werthoedd, hanes a diwylliant gael eu cymryd oddi arnyn nhw.”