Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi ysgrifennu llythyr agored ar drothwy pen-blwydd y Gwladol yn 72.

Yn y llythyr mae’r Gweinidog yn diolch i weithwyr allweddol ac yn trafod pandemig y coronafeirws yng Nghymru.

Mae’n dechrau’r llythyr drwy ddweud: “Dros y 72 mlynedd ddiwethaf, mae’r GIG wedi bod yno i bob un ohonom, yn lleddfu ein poenau, yn ein rhoi yn ôl at ein gilydd ar ôl cael damweiniau ac anafiadau, yn tawelu ein meddyliau cythryblus ac yn darparu cymorth yn ystod ein cyfnodau tywyllaf – ac nid oes unrhyw gyfnod wedi bod yn dywyllach na’r misoedd diwethaf”.

Clapio’n dychwelyd

Wrth i’r clapio ddychwelyd y penwythnos hwn, mae Vaughan Gething wedi dweud yn ei lythyr agored mai “nid yn unig i’r nyrsys a doctoriaid” y byddwn yn clapio.

“Ddydd Sul, (5 Gorffennaf) bydd cyfle inni edrych yn ôl dros fisoedd diwethaf y pandemig a diolch i’r degau ar filoedd o weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru sydd wedi peryglu cymaint i’n cadw ni’n ddiogel,” meddai.

“Byddwn yn clapio unwaith eto, nid yn unig i’r nyrsys a’r doctoriaid, ond i’r gweithwyr gofal, y gweithwyr siopau, y glanhawyr, y gyrwyr danfon nwyddau, y casglwyr sbwriel a llawer iawn mwy.”

Cofio’r sawl fu farw

Dywed y Gweinidog Iechyd y bydd y penwythnos hwn yn gyfle i “gofio’r unigolion hynny a fu farw o’r coronafeirws”.

“Er gwaetha’r heriau dros y misoedd diwethaf, mae wedi bod yn galonogol gweld y ffordd y mae ein cymunedau wedi dod ynghyd i gefnogi gweithwyr hanfodol a chefnogi ei gilydd. Rwy’n gwybod bob pawb sy’n gweithio yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol yn ddiolchgar am yr ymchwydd o gefnogaeth,” meddai.

Rhybudd

Wrth orffen y llythyr agored, rhybuddia Vaughan Gething nad yw pandemig y coronafeirws drosodd eto.

“Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu – nid yw’r pandemig wedi dod i ben,” meddai.

“Ond mae’r ffordd y mae pawb wedi ymateb mor amyneddgar, hwyliog a phenderfynol i wneud y peth iawn yn fy narbwyllo y byddwn yn parhau i ddiogelu Cymru gyda’n gilydd”.