Mae hi wedi dod i’r amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi gwario mwy na £11 miliwn ar Parc Bryn Cegin ym Mangor, sydd wedi bod ar gau ers 20 mlynedd.

Agorodd y parc busnes yn 1999 yn dilyn ymgynghoriad a oedd wedi awgrymu bod ei angen.

Mae’r Aelod o’r Senedd Plaid Cymru Siân Gwenllian wedi galw’r mater yn “sgandal” gan alw am ymchwiliad annibynnol i mewn i’r gwariant.

Dywed Llywodraeth Cymru ei fod yn gweithio â Chyngor Gwynedd i “ddenu busnesau i’r parc”.

Daeth y ffigyrau i’r amlwg yn sgil cais Rhyddid Gwybodaeth gan BBC Cymru.

Dyw Llywodraeth Cymru heb wneud sylw ar faint o arian sydd wedi cael ei wario ar y safle.

“Mae’n hollol annerbyniol bod gymaint o arian wedi cael ei wario ar safle a bod dim byd i’w weld yn nhermau swyddi o unrhyw fath,” meddai Siân Gwenllian.

“Wyddwn i ddim beth sydd wedi digwydd, ond rwy’n gwybod fod y peth y sgandal”.

Dywed Siân Gwenllian ei bod yn gobeithio gweld y safle’n cael ei ddefnyddio i roi hwb i’r economi leol yn sgil effaith y coronafeirws.

Mae angen “swyddi o safon” yn yr ardal, meddai.

1,600 o swyddi

Cafodd y safle ei hysbysebu fel un oedd yn gallu cynnal 1,600 o swyddi, ond hyd yma does yr un busnes yn gweithredu yno.

Daeth oddeutu £3.5 miliwn o’r £11.37 miliwn sydd wedi ei wario gan yr Undeb Ewropeaidd, tra bod £4.9 miliwn wedi dod gan Asiantaeth Datblygu Cymru.

Mae’r safle yn rhan o Gytundeb Twf Gogledd Cymru, sy’n bwriadu creu miloedd o swyddi yng Nghymru.