Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cwmnïau bysus Cymru drwy gyhoeddi cynllun brys newydd.

Bydd y Llywodraeth yn darparu cymorth ariannol i’r cwmnïau, a hynny yn gyfnewid am fwy o reolaeth gyhoeddus dros fysus Cymru.

Daw hyn wrth i’r cynllun cymorth byrdymor, y Gronfa Galedi Bysiau, ddod i ben.

Ond bydd disgwyliadau ychwanegol ar y cwmnïau bysus yn sgil y cyllid, sy’n cynnwys:

  • Gweithio gydag awdurdodau lleol a Thrafnidiaeth Cymru i ddarparu gwasanaethau hyblyg a chapasiti i ateb y galw.
  • Gwneud pob ymdrech rhesymol i gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiogel.
  • Gofyn am gymorth ariannol drwy’r holl grantiau eraill sydd ar gael iddynt.
  • Peidio â chynyddu prisiau siwrneiau bysiau masnachol.
  • Darparu gwybodaeth i helpu i wella gwasanaethau ar gyfer teithwyr.

Bwriad Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru ac mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau, yw datblygu’r Cynllun Brys i fod yn gynllun cyllid newydd hir dymor.

“Mae pandemig y coronafeirws wedi arwain at ddirywiad o ryw 90% yn nifer y teithwyr. Felly mae wedi bod yn angenrheidiol cymryd camau gweithredu a darparu cyllid i sicrhau dyfodol y diwydiant,” meddai’r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Lee Waters.

“Mae hynny wedi golygu bod bysiau wedi gallu helpu gweithwyr allweddol i fynd i’r gwaith yn ystod y pandemig, a bydd yn golygu y gall y diwydiant barhau i fod yn rhan hanfodol o’n rhwydwaith trafnidiaeth gan ein bod mewn sefyllfa, gobeithio, i lacio’r cyfyngiadau ac ailddechrau’r economi.

“Yn ogystal â darparu cyllid byrdymor gydag amodau sy’n sicrhau gwerth y cyhoedd, rwyf am i’r Cynllun Brys ar gyfer Bysiau arwain y ffordd a fydd yn caniatáu i gyllidwyr a defnyddwyr y sector cyhoeddus gael mwy o ddweud yn y broses o ail-lunio ein rhwydwaith bysiau er lles teithwyr ar draws Cymru.”