Mae yna gymysgedd o gyffro a phryder yn Aberteifi ynghylch y posibilrwydd o don o ymwelwyr.

Dyna mae maer y dref wedi ei ddweud wrth i Lywodraeth Cymru gadarnhau y bydd cyfyngiadau teithio yn cael eu llacio.

Mae Clive Davies wedi cyhoeddi ystadegau am niferoedd ymwelwyr i’r dref dros y misoedd diwethaf, ac mae yntau’n edrych ymlaen at weld rhagor o fwrlwm yno.

Ond mae’n cydnabod mai llafn â dau fin iddi yw’r llacio rheolau, a’r twf posib yn niferoedd yr ymwelwyr.

“Mae yna bryder, achos ‘dyn ni ddim yn gwybod shwt mae’n mynd i fod,” meddai wrth golwg360. “Y gobaith yw na fydd pobol yn dod mewn niferoedd r’yn ni wedi gweld yn y cyfryngau.

“Mae pobol yn gallu bod dros ben llestri… Felly, ie, gobeithio y dawn nhw’n bwyllog… Wedi dweud hynny, mae yna dipyn o ddala lan gyda ni i’w wneud [o ran busnes].”

Mae’r rheiny sydd yn berchen ar westai hunanwasanaeth (self service) yn medru derbyn cwsmeriaid o Orffennaf 11 ymlaen, ac mae Clive Davies yn disgwyl i hynny gael effaith ar Aberteifi.

Mae’n rhagweld y bydd y tymor gwyliau yn ymestyn i mewn i Fedi a Hydref, ac mae’n gobeithio bydd y rheol cadw pellter dau fedr yn parhau.

Blychau dros y dref

Mae yna sustem casglu data mewn grym yn Aberteifi, a trwy’r sustem yma mae Clive Davies wedi gallu cael gwybodaeth am niferoedd ymwelwyr.

Mae’n egluro bod yna flychau ar adeiladau “trwy’r dre” a bod buddsoddiad wedi’i rhoi i wneud hynny yn 2016.

Pwyntiau wi fi ydyn nhw sydd yn cofnodi ffonau, ond does dim rhaid i chi fod ar y sustem ddiwifr i gael eich pigo fyny.

Dydyn nhw ddim yn cofnodi unrhyw fanylion personol, meddai’r maer, gan egluro bod archfarchnadoedd yn defnyddio’r sustem yma.

“Dyna i gyd dw i wedi ei wneud yw ehangu beth sydd gyda’r archfarchnadoedd, neu yn y canolfannau siopa,” meddai. “Maen nhw ym mhobman.”

Fis diwethaf dywedodd wrth golwg360 bod niferoedd ymwelwyr yn “dechrau codi”.

Y blychau

Mae’r data sy’n cael ei gofnodi gan y blychau yn dangos:

  • Pa ardaloedd o’r dref sydd fwyaf prysur
  • Pa mor aml mae pobol yn dod i’r dref
  • Am ba mor hir mae pobol yn aros yn y dref
  • Os ydyn nhw wedi bod yn y dre o’r blaen – a sawl gwaith